Lleolir Swyddfa Ewropeaidd WLGA yn Nhy Cymru ym Mrwsel. Mae sawl rheswm pam dylai byd llywodraeth leol fod yn ymwneud ag Ewrop. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r Undeb Ewropeaidd wedi cyflwyno mwy a mwy o ddeddfau a pholisïau sy'n effeithio ar awdurdodau lleol a phobl eu bröydd nhw. Dylai byd llywodraeth leol geisio dylanwadu ar ddeddfau a pholisïau yn Ewrop a'r byd ehangach am fod bron pob agwedd ar bolisïau gwladol Cymru yn agored i benderfyniadau cyrff yr Undeb Ewropeaidd. Felly, mae WLGA yn awyddus i helpu i lunio'r polisïau hynny.
Mae swyddogaeth unigryw, pwysig a theilwng i fyd llywodraeth leol Cymru ynghylch hyrwyddo Cymru yn Ewrop a gweddill y byd. A hwythau'n arwain eu cymunedau, mae'r awdurdodau lleol yn gyfrifol am gyflawni llawer o bolisïau a rhaglenni'r Undeb Ewropeaidd yn eu bröydd nhw ac, felly, maen nhw'n cynnig cryn brofiad i'r rhai sydd wrthi'n llunio polisïau.
Mae Swyddfa Ewropeaidd WLGA yn cynnal cysylltiadau i gadw golwg ar broses ddeddfu yr Undeb Ewropeaidd o'r dechrau i'r diwedd, gan alluogi awdurdodau lleol i ddylanwadu arni ar yr adegau hanfodol.
- Brwsel yw canolbwynt Ewrop ynghylch syniadau, paratoi polisïau a hel gwybodaeth. Trwy gynnal swyddfa yno, mae gan WLGA garfan sy'n casglu gwybodaeth yn y fan a'r lle.
- Mae'r cyfle i gael dylanwad strategol ar newidiadau pwysig ym mholisïau a rhaglenni yr Undeb Ewropeaidd yn un arwyddocaol iawn i fyd llywodraeth leol.
- Brwsel yw prifddinas rwydweithio Ewrop achos bod yno dros 500 o swyddfeydd sy'n cynrychioli tua 100,000 o awdurdodau lleol Ewrop.
- Daw cynghreiriau strategol gyda'r cyrff eraill sy'n cynrychioli awdurdodau lleol a rhanbarthol, i edrych ar faterion sy'n gyffredin, yn fwyfwy pwysig. Mae sawl cyfle i greu cynghreiriau o'r fath trwy Swyddfa Ewropeaidd WLGA gan fod cynifer o gyrff yn cael eu cynrychioli ym Mrwsel.
