Mae'r awdurdodau lleol yn gweithio ar y cyd ag amryw asiantaethau eraill wrth roi Strategaeth Pobl Hŷn Cymru ar waith a datblygu materion perthnasol.
Ynglŷn â gweithio'n uniongyrchol gyda phobl hŷn, mae pob awdurdod lleol wedi sefydlu fforwm lleol ar gyfer pobl dros 50 oed i ehangu trefniadau ymgynghori a chyfranogi er lles nifer cynyddol y bobl hŷn yng Nghymru a chadw golwg ar yr amrywiaeth helaeth o faterion sy'n effeithio arnyn nhw. Nod y ffora yw gofalu bod pobl dros 50 oed yn cael dweud eu dweud am y materion sy'n bwysig iddyn nhw. Mae'r gwaith hwn i gyd yn adlewyrchu pwysigrwydd ymgysylltu a chyfathrebu ynglŷn â chryfhau'r rôl gydweithredol.
Mae'r awdurdodau lleol yn cydweithio ag amryw gyrff eraill i gynorthwyo a herio gwahanol haenau llywodraethu Cymru. Mae WLGA yn aelod o Fforwm Partneriaeth Genedlaethol Pobl Hŷn Cymru sy'n rhoi cyngor am y materion o bwys sy'n effeithio ar bobl hŷn. Mae Cynghrair Henoed Cymru yn gynghrair o fudiadau gwirfoddol sy'n lledaenu gwybodaeth yn y sector gwirfoddol. Mae Help the Aged ac Age Concern yn cydweithio'n agos a'r awdurdodau lleol hefyd, gan godi ymwybyddiaeth am faterion amrywiol a helpu i wella'r gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn. Mae Canolfan Cymru dros Ymarfer rhwng Cenedlaethau yn hyrwyddo gwell amgyffred a pharch ar draws y cenedlaethau. Mae Llywodraeth Well i Bobl Hŷn (BGOP) yn gweithio ar y cyd â phob haen lywodraethu, y gwahanol sectorau a phobl hŷn. Ei nod yw gofalu bod modd ymgysylltu â phobl hŷn a hyrwyddo eu dinasyddiaeth ym mhob agwedd ar y gwasanaethau. Trwy BGOP Cymru, mae Cylch Gweithredu Pobl Hŷn (OPAG), yn cynghori llywodraeth y wlad. Ymhlith aelodau'r cylch, mae dau gynrychiolydd o ardal pob awdurdod lleol a chynrychiolwyr o'r amryw fudiadau cenedlaethol dros bensiynwyr.
Cafod swydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ei chreu yn 2008. Ei diben yw cadw golwg ar yr hyn mae cyrff llywodraeth wladol a lleol yn ei wneud a chynrychioli buddiannau pobl hŷn.
