Strategaeth Ewrop 2020
Yn mis Tachwedd 2009, cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd ei chynnig am Strategaeth 'Ewrop 2020'. Gan ddefnyddio'r Strategaeth, mae'r Comisiwn yn gobeithio cryfhau yr UE yn dilyn yr argyfwng ariannol byd-eang, gan hefyd cyflymu'r broses tuag at economi call a gwyrdd.
Ar 21 Rhagfyr 2009, ymatebodd WLGA i ymgynghoriad y Comisiwn ar Strategaeth Ewrop 2020. Mae WLGA hefyd wedi rhoi sylwadau i sefydliadau sydd yn bartneriaid, er mwyn cynorthwyo eu hymatebion i ymgynghoriad y Comisiwn:
Ymateb Ymgynghoriad WLGA i Strategaeth 'EU 2020'
Cafodd targedau Strategaeth Ewrop 2020 eu mabwysiadu gan Arweinwyr Aelodau'r UE yn ystod cyfarfod y Cyngor Ewropeaidd ar 25-26 Mawrth 2010. Fe fydd Swyddfa Ewropeaidd WLGA yn dilyn datblyiadau yn y maes hwn yn drylwyr ac yn hysbysu cyfeillion a phartneriaid yn rheolaidd.
Adolygiad o Gyllideb yr UE
Yn mis Ionawr 2011, anfonodd y Cyng. Chris Holley, Llefarydd WLGA ar Ewrop ac Adfywio, lythyr i Comisiynydd Lewandowski, sy'n gyfrifol am Bolisi Cyllidebol yr UE. Mae'r llythyr yn trafod Adolygiad o Gyllideb yr UE a rhai o'r prif negeseuon ar gyfer y cyfnod ariannol nesaf o lywodraeth leol yng Nghymru:
Llythyr o lywodraeth leol Cymru i Comisiynydd Lewandowski
Mae rhagor o wybodaeth gan: Iwan Williams


