Rydych chi yma: Hafan / Pynciau / Gwella a llywodraethu / Cynllun Rhagoriaeth Cymru / Archive of Exellence Wales Status / Celebration of Success 2007/08 / Statws Rhagoriaeth Cymru 2007/08
 

Statws Rhagoriaeth Cymru 2007/08

Rydym yn gwahodd ceisiadau ar gyfer statws Rhagoriaeth Cymru 2008.

Dyma’r themâu ar gyfer 2008:

  • Ein Plant a’n Pobl Ifainc – Diogelu a datblygu bywydau a dyheadau
  • Ein Heconomi – Cymunedau cryf, llewyrchus ac egnïol
  • Ein Hamgylchedd – Glân a gwyrdd ac yn cael ei reoli a’i werthfawrogi
  • Ein Cyngor – Cydweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus

Mae’r llyfryn atodedig yn rhoi manylion am y themâu a’r is-themâu.

Gyda chymorth adborth cadarnhaol gan y cynghorau a phartneriaid cenedlaethol o brofiad y flwyddyn flaenorol, rydym wedi gwella a mireinio cynllun Rhagoriaeth Cymru. Ceir crynodeb o’r prif welliannau ar dudalen 4 y ddogfen atodedig. Hoffwn dynnu eich sylw at y newidiadau canlynol yn benodol:

  • rydym wedi ehangu’r cynllun er mwyn i Barciau Cenedlaethol, Awdurdodau Heddlu, Tân ac Achub allu ymgeisio am statws Rhagoriaeth Cymru o fewn themâu ac is-themâu penodol (tudalen 10); 
  • rydym wedi mireinio’r broses ymgeisio a chydnabod yng nghategori Ein Cyngor i annog ceisiadau am arferion cydweithio da yn y sector cyhoeddus; 
  • rhagor o amser i gwblhau ceisiadau; 
  • cyflwyno ‘tystysgrif cydnabod’ pan fo awdurdod yn cyflawni rhai, ond nid pob un, o’r meini prawf sydd eu hangen i ennill canmoliaeth mewn is-thema ac yn dangos enghreifftiau o arferion sy’n werth eu cydnabod.

Dyma’r dyddiau cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:-

Cyflwyno ffurflen Bwriad i Ymgeisio: Dydd Gwener 20fed Gorffennaf 2007

Dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau: Dydd Llun 24ain Medi 2007

Mae rhagor o wybodaeth gan: Clover Rodrigues