Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Carfan Dysgu Gydol Oes, Hamdden a Gwybodaeth WLGA / Chwaraeon a gweithgareddau corfforol
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Chwaraeon a gweithgareddau corfforol

Mae'r awdurdodau lleol yn gyfrifol am gynnig cyfleusterau a gwasanaethau hamdden megis canolfannau hamdden, neuaddau pentref, parciau a mannau agored i'w cymunedau. Maen nhw'n cynnal amrywiaeth helaeth o chwaraeon a gweithgareddau corfforol i bobl o bob oedran yn yr ardal, hefyd. Yn ôl y ffigurau, mae tua 25 miliwn o ymweliadau â chanolfannau hamdden a chwaraeon awdurdodau lleol Cymru bob blwyddyn.

Mae'n hanfodol hyrwyddo a chynyddu gweithgareddau corfforol er iechyd a lles y genedl ac mae'r awdurdodau lleol wastad yn chwilio am ffyrdd o godi nifer y trigolion sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau o'r fath.

Mae WLGA yn aelod o'r cylch sy'n rhoi cyngor arbenigol i'r Gweinidog dros Faterion Treftadaeth i ofalu bod strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithgareddau corfforol a chwaraeon, 'Creu Cymru Egnïol', yn cael ei defnyddio'n effeithlon.

A Mabolgampau 2012 yn Llundain ar y gorwel, mae digon o gyfleoedd i fyd llywodraeth leol Cymru gymryd rhan yn y trefniadau. Mae WLGA yn aelod o'r cylch llywio sy'n cwrdd bob tri mis i drafod holl effaith yr achlysur ar Gymru.

Mae'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yn gweithredu o dan nawdd Llywodraeth y Cynulliad ac o dan adain WLGA er lles y rhai mae perygl y byddan nhw'n dioddef ag afiechyd parhaol. Mae'n cynnig cyfleoedd safonol iddyn nhw ymarfer trwy bob awdurdod lleol a bwrdd iechyd lleol yng Nghymru.

Mae WLGA wedi helpu i lunio a chynnal Menter Nofio am Ddim Llywodraeth Cymru sy'n gadael i'r rhai o dan 16 oed a'r rhai dros 60 nofio'n rhad ac am ddim mewn pyllau nofio lleol.

Mae WLGA yn cydweithio'n agos â phrif swyddogion hamdden yr awdurdodau lleol ac yn cynnal amryw fentrau ar y cyd â Chwaraeon Cymru.