Adolygiad Simpson: Lleol, Rhanbarthol, Cenedlaethol: Pa wasanaethau yw’r rhai gorau i’w darparu ble?
Yn ystod tri mis cyntaf 2011, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru dair dogfen bwysig am dynged gwasanaethau a swyddogaethau byd llywodraeth leol:
Adolygiad Simpson: ‘Lleol, Rhanbarthol, Cenedlaethol: Pa wasanaethau yw’r rhai gorau i’w darparu ble?’
Adroddiad Vivian Thomas: ‘Strwythur Gwasanaethau Addysg yng Nghymru’
‘Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu’
Dyma un o argymhellion Adolygiad Simpson:
‘Bydd Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn dod i gytundeb am ddatblygu trefniadau cydweithredol a gwladol ar gyfer gwasanaethau erbyn mis Gorffennaf 2011. Bydd y cytundeb yn pennu amserlen ymarferol ond ymestynnol ynglŷn ag ymateb i’n hargymhellion ni. Bydd yn amlinellu’r camau y gallai’r gweinidogion eu cymryd pe na bai awdurdodau’n cadw at y cytundeb, hefyd. Bydd yn bwysig i Lywodraeth Cymru ac WLGA gytuno ar ryw ddiffiniad o lwyddiant.’
Yn sgîl hynny, ymgynghorydd WLGA â byd llywodraeth leol am argymhellion yr adroddiad yng nghyd-destun y tri adroddiad i gyd, gan argymell y dylen ni ofyn i’r gweinidogion ymateb yn gydlynol. Bu canlyniadau bras yr ymgynghori gerbron Pwyllgor Cydlynu WLGA fis Mai 2011 a dywedodd ei aelodau y dylai WLGA arwain o ran llunio’r cytundeb ac y dylai’r pedwar bwrdd rhanbarthol gytuno arno. Ar ben hynny, dywedon nhw y dylai WLGA gynnal trafodaethau gydag amryw gyrff arbenigol megis SOLACE, ADEW, ADSS a Chymdeithas Trysoryddion Cymru. Ers hynny, mae Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru wedi gorffen dadansoddi’r 33 o ymatebion i’r ymgynghori ac mae bwrdd pob un o’r pedair partneriaeth ranbarthol wedi trafod y mater.
Argymhellodd Adolygiad Simpson y byddai angen dod i gytundeb erbyn mis Gorffennaf 2011 ond, ar ôl trafod y mater gyda’r Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Carl Sargeant AC, mae pawb wedi cytuno y dylai Cyngor y Bartneriaeth ystyried adroddiad am y gwasanaethau pwysicaf gyntaf a phennu’r prif feini prawf ynghyd â thrywydd eglur i amryw wasanaethau eraill. Rydyn ni wedi cytuno ar amserlen newydd a’r bwriad bellach yw cyflwyno’r cytundeb yn yr hydref a llunio ei brif agweddau yn ôl nifer o egwyddorion priodol.
- Adroddiad i Gyngor y Bartneriaeth – Hybu cydlynu wrth gydweithio’n rhanbarthol – 21ain Gorffennaf 2011
- Adroddiad i Gyngor y Bartneriaeth – Egwyddorion y cytundeb mae Adroddiad Simpson wedi’i argymell – 21ain Gorffennaf 2011
- Adroddiad i Gyngor WLGA – Ymateb WLGA i adolygiadau Llywodraeth Cymru a ffurf arfaethedig y cytundeb argymhellodd Adroddiad Simpson – 24ain Mehefin 2011
- Adroddiad i Gyngor WLGA – Ymateb Bras WLGA i Adolygiad Simpson – 24ain Mehefin 2011
- Adroddiad Simpson – Lleol, Rhanbarthol, Cenedlaethol: Pa wasanaethau yw'r rhai gorau i'w darparu ble? – Mawrth 2011
- Datganiad gan WLGA i’r wasg – WLGA yn croesawu trefniadau lleol, rhanbarthol a gwladol ar gyfer gwasanaethau – 29ain Mawrth 2011
- Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu – 17eg Chwefror 2011
- Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar gyfer Adolygu Strwythur Gwasanaethau Addysg
- Datganiad gan WLGA i’r wasg – WLGA yn croesawu'r ffaith bod gwella safonau a chyrhaeddiad yn yr ysgolion yn flaenoriaeth – 29 Mawrth


