Rydych chi yma: Hafan / Amdanon ni / Pobl CLlLC / Uwch Dîm Rheoli
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Uwch Dîm Rheoli

Naomi Alleyne: Cyfarwyddwr Materion Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Cyfarwyddiaeth: Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Cyfarwyddwr Materion Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yw Naomi Alleyne. Mae ei meysydd cyfrifoldeb yn cynnwys cydraddoldeb ac amrywioldeb, tai, plismona a diogelwch yn y gymuned, pobl hŷn, plant tlawd a lloches a mewnfudo. Cyn ymuno â'r Gymdeithas, bu Naomi yn bwrw tymor gyda Llywodraeth y Cynulliad, gan weithio ym meysydd cydraddoldeb hiliau, lloches a mewnfudo. Mae hi wedi gweithio mewn dau o'r cynghorau ynglŷn â chydraddoldeb hiliau hefyd, a bu'n Gyfarwyddwr Cyngor Cydraddoldeb Hiliau'r De-ddwyrain. Mae'r syniad o chwarae teg i bawb ym mhob agwedd ar fywyd yn agos iawn at ei chalon, ac mae Naomi wedi cael cyfleoedd i weithio gydag amryw sefydliadau a phobl er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb a chreu cymunedau teg, diogel a chyfiawn.

Anna Freeman: Cyfarwyddwr Cyflogaeth

Cyfarwyddiaeth: Cyflogaeth a Gweithlu

Cafodd Anna Freeman ei phenodi’n Gyfarwyddwr Cyflogaeth WLGA yn 2002. Mae’n llywio tîm bychan sy’n cydweithio â swyddogion adnoddau dynol, cynghorwyr ac undebau llafur yn awdurdodau lleol Cymru i hwyluso gwella trwy ddatblygu’r arferion gorau ym maes adnoddau dynol. Mae Anna yn ymwneud â Chyngor Cyswllt Cymru a Sefydliad Cyflogwyr y DG, hefyd. Mae cyfleoedd cyfartal yn agos at ei chalon o hyd ym mhob agwedd ar ei gwaith. Cyn ymuno ag WLGA, bu yn swydd Pennaeth Polisïau Strategol a Phersonél Cyngor Sir Fynwy gan ysgwyddo cyfrifoldeb am gydraddoldeb ynghylch cyflogaeth a chynnig gwasanaethau. Hi benododd swyddog cyfleoedd cyfartal cyntaf y cyngor.

John Rae: Cyfarwyddwr Adnoddau

Cyfarwyddiaeth: Adnoddau

Beverlea Frowen: Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Gwella Iechyd

Cyfarwyddiaeth: Gwasanaethau Cymdeithasol a Gwella Iechyd

Mae gan Beverlea dros 30 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes polisi’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Bu’n gweithio gyda’r GIG, Llywodraeth Ganolog a’r Comisiwn Archwilio cyn cael ei phenodi i swydd gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn 2003. Yn y Gymdeithas Beverlea sy’n gyfrifol am Wasanaethau Cymdeithasol a Gwella Iechyd. Mae ei phortffolio’n cynnwys gwella a rheoli perfformiad ym maes Gofal Cymdeithasol. Hi a sefydlodd Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2006 ac mae hi’n parhau i fod yn aelod o sawl gweithgor cenedlaethol ar bolisi cyhoeddus. Yn 2009 cafodd ei hapwyntio’n aelod dros Ofal Cymdeithasol ar Fwrdd Cymreig Action for Children.

Y Dr Tim Peppin: Cyfarwyddwr materion Adfywio a Datblblygu Cynaladwy

Cyfarwyddiaeth:Yr Amgylchedd ac Adfywio 

Cafodd Tim Peppin ei benodi’n Gyfarwyddwr Adfywio a Datblygu Cynaladwy WLGA fis Rhagfyr 2007. Mae’i gyfrifoldebau a’i staff yn ymwneud ag amrywiaeth helaeth o faterion amgylcheddol ac adfywio megis gwastraff (polisïau, ymwybyddiaeth a gwella), trafnidiaeth, cynllunio, mentrau adfywio, datblygu economaidd/masnachol a chymunedol, dŵr a llifogydd, cefn gwlad a bioamrywiaeth, parciau cenedlaethol ac adfywio gwledig yn ogystal â rolau corfforaethol ynghylch materion Ewrop (a swyddfa WLGA ym Mrwsel) a datblygu cynaladwy. Mae Tim ym maes llywodraeth leol er 1988, gan ddechrau’n swyddog ymchwil economaidd yng Nghyngor Sir Cleveland ym 1988. Cafodd ei benodi’n Brif Swyddog Polisïau Cyngor Sir Morgannwg Ganol ym 1992 a’i benodi’n Rheolwr Polisïau ac Ymchwil Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ym 1996 yn sgîl ad-drefnu byd llywodraeth leol. Bu’n swyddog arweiniol yno dros ddatblygu cynaladwy a pherthynas y cyngor â’r sector gwirfoddol yn ogystal â chymryd rhan flaengar mewn mentrau adfywio cymunedol. Cafodd ei benodi’n Bennaeth Polisïau a Gwasanaethau Democrataidd Caerffili yn 2004 ac yn aelod o dîm uwch reolwyr y cyngor.

Y Dr Chris Llewelyn: Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes, Hamdden a Gwybodaeth

Cyfarwyddiaeth: Dysgu gydol oes, materion diwylliannol a gwybodaeth 

Cafodd Chris ei addysgu yn Ysgol Gyfun Dyffryn Aman cyn astudio ym Mhrifysgol Caerlŷr, Coleg Prifysgol Cymru Abertawe ac Academi Cyfraith Ewrop, Sefydliad Prifysgol Ewrop, Fflorens.

Bu'n ddarlithydd ym maes gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe am gyfnod, yn ogystal â gweithio yng Nghanolfan yr Astudiaethau Datblygu, cyn dechrau ei yrfa ynghylch llunio polisïau cyhoeddus. Bu'n ymchwilydd yn Nhŷ'r Cyffredin cyn ei benodi'n Uwch Swyddog Polisïau a Datblygu Cyngor Defnyddwyr Cymru ym 1996. Bu'n Bennaeth Ymchwil y Cyngor wedyn, ac fe gafodd ei benodi'n Gyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes, Hamdden a Gwybodaeth WLGA yn 2002. 

Mae rhagor o wybodaeth gan: Barry Williams