Dangosodd gwybodaeth gafodd ei chyhoeddi fis Mehefin 2010 fod 1,753 o ysgolion, 467,141 o ddisgyblion a 25,287 o athrawon amser llawn cyfatebol yng Nghymru.
Dyma nifer yr ysgolion fesul categori:
- 25 ysgol feithrin
- 1,462 o ysgolion cynradd
- 223 o ysgolion uwchradd
- 43 o ysgolion arbennig
Roedd nifer yr ysgolion wedi gostwng o 20, nifer y disgyblion wedi gostwng o 2,500 a nifer yr athrawon wedi gostwng o 275 o'i chymharu â 2009.
Mae £2,812 miliwn wedi'u neilltuo ar gyfer gwasanaethau addysg Cymru yn 2010-11.
Awdurdodau lleol sy'n cynnal y rhan fwyaf o ysgolion Cymru ac mae gan bob ysgol o'r fath berthynas uniongyrchol â chyngor ei ardal.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Daisy Seabourne


