Un o ddyletswyddau awdurdodau lleol Cymru yw gofalu bod amrywiaeth a nifer priodol o leoedd yn yr ysgolion. Mae amryw agweddau ar y gwaith hwnnw – rheoli trefniadau derbyn disgyblion, rheoli lleoedd yn y gyfundrefn a'r ysgol, symleiddio'r gyfundrefn yn ôl yr angen a chael gwared ar leoedd gwag. Mae'r awdurdodau lleol ledled Cymru wrthi'n bwrw golwg manwl ar drefn eu hysgolion. Mae nifer o ffactorau wedi sbarduno'r gwaith hwnnw – yn bennaf, nifer y disgyblion a chyflwr ac addasrwydd yr ysgolion. Mae'r ddau ffactor hwn yn ymwneud â'i gilydd a does dim modd trin a thrafod pob un ar ei ben ei hun.
Mae ystadegau'n dangos bod poblogaeth Cymru a nifer y genedigaethau yma wedi bod yn gyson dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae nifer y disgyblion wedi gostwng yn fawr dros yr un cyfnod, fodd bynnag – 453,349 yn 2008/09 o'i gymharu â 486,910 yn 2000/01. Daeth y duedd i'r amlwg yn yr ysgolion cynradd yn gyntaf, gan symud trwy'r gyfundrefn a dechrau effeithio ar addysg uwchradd ac addysg ôl-16 erbyn hyn.
Mae'r duedd gyffredinol hon yn cuddio newidiadau ym mhoblogaeth y wlad i gyd a'i hamryw ardaloedd. O'r herwydd, mae rhai ysgolion lle mae llawer o leoedd gwag a rhai ysgolion lle nad oes digon o leoedd. Mae tystiolaeth bod nifer y trigolion wedi cynyddu mewn rhai ardaloedd yn sgîl mewnfudo, hefyd. Dyw nifer y disgyblion ddim yn gostwng i'r un graddau ym mhob rhan o Gymru – gall amgylchiadau lleol fod yn wahanol iawn.
Gan fod gostwng yn nifer y disgyblion a newidiadau yn y boblogaeth, mae ysgolion ac ynddyn nhw leoedd gwag mewn sawl rhan o Gymru. Mae pob awdurdod lleol yn pennu nifer y lleoedd yn yr ysgolion uwchradd a chynradd yn ôl fformiwlâu Llywodraeth y Cynulliad, gan gymharu nifer y disgyblion sydd ar restr pob ysgol wedyn i weld a oes gormod o leoedd neu brinder. Yn ôl y ffigurau diweddaraf, mae 95,027 o leoedd gwag yn ysgolion Cymru – 18.2% o gyfanswm y disgyblion. Mae gan 30% o'r ysgolion lawer o leoedd gwag o'u cymharu â'r 0.7% lle nad oes digon. Mae canran y lleoedd gwag yn amrywio yn fawr ymhlith yr awdurdodau – 25% mewn rhai a 11% mewn eraill. Mae angen rhywfaint o leoedd gwag fel y bydd y gyfundrefn yn ddigon hyblyg i ymateb i newidiadau yn nifer y disgyblion.
Mae llawer o awdurdodau lleol wedi cyhoeddi cynlluniau bellach i amlinellu sut maen nhw'n bwriadu trefnu ysgolion yr ardal. I gael gwybodaeth am gynllun awdurdod penodol, dylech chi edrych ar wefan yr awdurdod hwnnw.
I gael gwybodaeth am fuddsoddi yn adeiladau'r ysgolion, cliciwch ar y linc â Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Daisy Seabourne


