Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Carfan Cyflogaeth WLGA / Iechyd a Diogelwch / Rheoli trafnidiaeth yn ddiogel mewn sefydliadau addysgol
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Rheoli trafnidiaeth yn ddiogel mewn sefydliadau addysgol

Mae'r Awdurdod Gweithredol dros Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi pennu'r mater hwn yn flaenoriaeth achos bod cerbydau yn y gwaith yn achosi sawl anaf marwol a difrifol o hyd. Mae amcangyfrif bod 1,000 o bobl yn cael eu lladd ar y ffyrdd bob blwyddyn o achos damweiniau sy'n ymwneud â gwaith. Mae'r diffiniad o weithle'n cynnwys yr ysgolion, hefyd.

Yn ystod tymor yr ysgol, mae miloedd o ddisgyblion a'u rhieni'n teithio rhwng y cartref a'r ysgol bob dydd. Mae'r teithiau hynny'n effeithio ar drafnidiaeth leol yn fawr gan achosi tagfeydd o amgylch ysgolion ac ychwanegu at nifer y cerbydau sydd ar y ffordd yn ystod oriau brig y bore a'r prynhawn.

Mae ffactorau eraill yn ychwanegu at y peryglon i ddisgyblion a phobl eraill o achos cerbydau yng nghyffiniau'r ysgol, hefyd. Doedd llawer o'r rheiny ddim yn amlwg pan gafodd yr ysgolion hŷn eu codi a chawson nhw mo'u hystyried yn briodol wrth gynllunio ysgolion gafodd eu codi'n ddiweddarach. Ymhlith ffactorau o'r fath mae dalgylchoedd ehangach lle mae angen i ddisgyblion deithio ymhellach gyda bws, tacsi neu gar; ffyrdd cul nad ydyn nhw'n addas i fysiau; cynnydd cyffredinol yn nifer y ceir; cynnydd yn nifer yr athrawon a gweithwyr eraill sy'n teithio i'r gwaith yn eu ceir.

Mae'r Awdurdod Gweithredol dros Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi bod yn dweud wrth yr awdurdodau lleol a sefydliadau addysgol unigol bod angen iddyn nhw ystyried ffyrdd o atal damweiniau rhag digwydd ar eu safleoedd yn ogystal â helpu i ddiogelu'r ardal o amgylch y safle.

Mae ar wefan yr HSE gyngor am http://www.hse.gov.uk/workplacetransport/index.htm  sy'n ogystal â rhai astudiaethau defnyddiol gan gynnwys un am fynedfa ysgol – cliciwch http://www.hse.gov.uk/workplacetransport/sitesafe/cs6unsafe.htm.  

At hynny, mae nifer o astudiaethau isod gan awdurdodau yng Nghymru sydd wedi mynd i'r afael â'r mater hwn mewn amryw ysgolion a safleoedd. Mae rhestr o beryglon a ffyrdd o'u rheoli hefyd i'ch helpu i nodi a datrys rhai o'ch problemau.

O reoli trafnidiaeth ar safleoedd ysgolion ac o'u hamgylch yn ôl y canllawiau hyn, dylech chi ystyried mentrau a materion perthnasol eraill o ran diogelu disgyblion a cherddwyr, hefyd. Mae cyfres o astudiaethau achos hefyd ar gael ar gais i gefnogi'r canllawiau hyn.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Jonathan Lloyd