Mae gweithgareddau datblygu gwledig yn dylanwadu'n fawr ar dirwedd a bywyd pob cymuned yng Nghymru. Mae cefn gwlad yn adnodd mwyfwy pwysig ar gyfer hamdden a thwristiaeth yn ogystal â chymuned fyw ddylai ffynnu'n economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol.
Yn sgîl gwaith yr Arsyllfa Wledig, mae'n amlwg mai polisïau gwael fydd yn deillio o duedd i weithio yn ôl diffiniadau syml o gymunedau gwledig a threfol. Dyw ardaloedd gwledig ddim yr un fath â'i gilydd, mae'u problemau'n wahanol i'w gilydd, yn aml ac mae problemau rhai'n debyg i ardaloedd trefol, weithiau.
Mae rôl allweddol i awdurdodau lleol ynglŷn â datblygu gwledig:
• dyletswydd i hybu lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol eu cymunedau;
• cyfrifoldebau am amryw weithgareddau gwledig statudol a dewisol megis rheoli gwastraff ffermydd, rheoli tir yn strategol, bioamrywiaeth, cynnal hawliau tramwy a chynlluniau gwella;
• rhan flaengar mewn strategaethau adfywio economaidd a chymunedol;
• cyfrifoldeb am ddiogelu'r cyhoedd trwy wasanaethau safonau masnach a iechyd amgylcheddol;
• cyfrifoldebau yn rhinwedd eu statws yn berchnogion tir.
Mae rôl bwysig i'r awdurdodau lleol yng Nghynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013. Er eu bod yn ymwneud â gweithgareddau ar draws y cynllun, prif fyrdwn eu rôl yw rheoli a chyflawni gwaith yn Echel 3 sy'n canolbwyntio ar arallgyfeirio yn economi cefn gwlad. Mae'r awdurdodau lleol yn rhoi cymorth ysgrifenyddol a gweinyddol i'r partneriaethau lleol sydd wedi'u sefydlu ar gyfer y rhan honno o'r cynllun ac maen nhw wedi llunio strategaethau lleol i gyfeirio eu gweithgareddau. Mae'r awdurdodau lleol yn cydweithio'n agos â'r grwpiau gweithredu lleol sy'n arwain gweithgareddau Echel 4, hefyd.
Mae WLGA yn cynrychioli byd llywodraeth leol ym Mhwyllgor Monitro Rhaglen Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013. Dyma'n cynrychiolwyr:
Aelod: Y Cynghorydd Clive Scourfield (Sir Gâr)
Eilydd: Neville Davies (Sir Gâr)
Rydyn ni hefyd yn cynnal Fforwm Gwledig WLGA sy'n dod ag arweinyddion ac uwch swyddogion y naw awdurdod lleol gwledig at ei gilydd i drafod y prif faterion, cyfnewid profiad a chyfeirio WLGA mewn materion gwledig. Cewch chi ragor o fanylion am y fforwm trwy'r linc isod:
Mae rhagor o wybodaeth gan: Lowri Gwilym


