Mae cronfa ddata’r arferion nodadwy’n cynnwys astudiaethau sydd wedi’u llunio i ddangos un, neu ragor, o brif nodweddion awdurdod sy’n gwella iechyd (gweler isod). Y cynghorau eu hunain luniodd yr astudiaethau hynny i ledaenu dulliau ac arferion sy’n llwyddo yn eu hardaloedd nhw ac a allai fod yn berthnasol i ardaloedd eraill. Yn eu plith, mae pethau y byddai modd eu trosglwyddo, pethau arloesol a phethau sydd wedi ennill eu plwyf.
Gallu
Bydd i gyngor sy’n cydnabod ei rolau presennol ac yn datblygu pobl a threfnau yn ôl materion gwella iechyd nodweddion megis:
- Mae gan y cynghorwyr allu cryfach i arwain y gymuned o ran gwella iechyd.
- Mae’r cyngor yn manteisio ar allu’r cylch corfforaethol dros wella iechyd gan gydlynu holl adnoddau’r tîm lleol dros iechyd y cyhoedd, y bwrdd iechyd lleol, mudiadau gwirfoddol a chyrff eraill.
- Mae gan uwch reolwyr a swyddogion polisïau’r wybodaeth, y medrau a’r gallu i hwyluso materion gwella iechyd a’r rhai trawsbynciol.
- Mae’r rhai sy’n rheoli ac yn cynnig gwasanaethau rheng flaen yn gwybod sut gallan nhw wella iechyd trwy eu gwaith nhw.
Cydweithio
Gan gydnabod na all yr un corff drin a thrafod pob agwedd ar faterion gwella iechyd ar ei ben ei hun, bydd y cyngor yn ymrwymo i gydweithio â phartneriaid allweddol er llwyddiant ac iddo’r nodweddion canlynol:
- Mae’r cyngor yn cydnabod beth y gall ei gyflawni orau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol a beth yw cyfrifoldebau ac arbenigedd asiantaethau eraill.
- Mae partneriaethau strategol a gweithredol lleol yn gwella iechyd a lles mewn modd mesuradwy a chynaladwy yn ôl y delfryd mae pawb wedi’i arddel yn y strategaeth gymunedol a’r strategaeth ar gyfer iechyd, gofal cymdeithasol a lles.
- Mae’r cyngor yn blaenoriaethu partneriaethau gyda’r cymunedau mae’n eu cynrychioli gan ddatblygu’r trefniadau cydweithio cyfredol ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a lles.
- Mae’r partneriaid yn ymddiried yn ei gilydd ac yn atebol i’w gilydd gan rannu cyfraniadau, peryglon a buddion yn gyfartal.
Meddylfryd corfforaethol
Bydd i gyngor sy’n hybu materion gwella iechyd nodweddion megis:
- Mae’r cyngor yn codi ymwybyddiaeth gref o faterion iechyd ymhlith ei staff ar bob lefel gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â dinasyddion a chymunedau bob dydd.
- Mae’r syniad o wella iechyd wrth wraidd delfryd y cynllun cymunedol ac mae’n rhan annatod o’r holl waith corfforaethol ynghyd â chynhwysiant cymdeithasol, cydraddoldeb a chynaladwyedd.
- Mae’r cyngor yn defnyddio ei rôl ynglŷn ag arwain y gymuned i roi ar waith ei ddelfryd ynglŷn â gwella iechyd.
- Mae’r cyngor yn gwerthfawrogi iechyd ei weithwyr a’i gynghorwyr trwy gynnal y safon iechyd gorfforaethol, buddsoddi ym maes iechyd galwedigaethol a hybu ffordd dda o fyw er cydbwysedd rhwng y gwaith a’r cartref, gan arwain trwy esiampl o ran arferion da.
Llywodraethu a rheoli perfformiad
Bydd i gyngor a chanddo ffyrdd effeithiol o fesur, rheoli a chloriannu gwaith gwella iechyd yn ei adrannau, gan ganolbwyntio ar ei ddiben a’i amcanion yn ogystal â’r deilliannau i ddinasyddion, nodweddion megis:
- Mae’r cyngor wedi cyfuno gwaith gwella iechyd â strategaethau eraill, ei orchwylion corfforaethol a chyfresi cynllunio ei wasanaethau.
- Mae’n defnyddio pwyllgorau craffu’n effeithiol ar y cyd â’i bartneriaid i edrych a dylanwadu ar benderfyniadau lleol pwysig a mynd ati ar y cyd i leddfu anghydraddoldeb ym maes iechyd.
- Mae’n cyfleu gwybodaeth am strategaethau a pherfformio yn effeithiol ymhlith ei staff, y bobl gysylltiedig eraill a’r dinasyddion.
- Mae fframwaith cytbwys ar gyfer rheoli perfformiad. Mae’n mesur y gorchwylion arferol, y deilliannau sydd i’w hwyluso ar y cyd, a nifer bychan o ddangosyddion penodol.
Llunio polisïau
Bydd i gyngor a chanddo bolisïau sy’n manteisio i’r eithaf ar effaith gadarnhaol ei wasanaethau ar iechyd nodweddion megis:
- Mae’r cyngor yn ystyried gweithgareddau mewn modd cyfannol yn ei adrannau a’r tu hwnt i gyflawni amcanion trawsbynciol. Mae ym mhob un o’r adroddiadau i’r cabinet ran am y cyfraniad cyfan at wella iechyd.
- Trwy gasglu, lledaenu a defnyddio gwybodaeth gadarn, mae’r cyngor yn gofalu bod ei bolisïau i gyd yn helpu i wella iechyd yn ôl Siarter Ottawa Sefydliad Iechyd y Byd.
- Mae delfryd ac amcanion y strategaeth gymunedol a’r strategaeth ar gyfer iechyd, gofal cymdeithasol a lles yn amlwg yng ngwaith y cyngor a’r modd mae’n cynnig gwasanaethau.
- Mae’r cyngor yn asesu effeithiau ei waith ei hun a gwaith partneriaeth yr ardal ar iechyd yn rheolaidd.


