Cyflwyniad
Arweinydd cymunedol
Goruchwylio a chraffu
Y Bwrdd Gweithredol
Cynllunio
Trwyddedu
Y Pwyllgor Safonau
Mae’r argraff gyffredinol o waith beunyddiol cynghorydd yn amrywio’n helaeth.
Y gwir amdani yw bod cynghorwyr yn gyfrifol am sawl maes ac mae pob diwrnod yn wahanol. Mae angen i gynghorwyr gydbwyso anghenion a lles eu cymuned, eu plaid wleidyddol (os ydyn nhw’n aelod) yn ogystal â’r cyngor yn gyffredinol.
Mae angen ymrwymiad personol i fod yn gynghorydd. I allu gwneud y gwaith yn llwyddiannus, bydd yn cymryd llawer iawn o’ch amser a hynny ar ben ymrwymiadau eich bywyd personol a’ch gwaith. Fodd bynnag, mae bod yn gynghorydd yn fraint ac yn ffordd wobrwyol o wasanaethu’r cyhoedd. Byddwch mewn sefyllfa i allu gwella gobeithion pobl a’u bywydau bob dydd.
Mae cynghorwyr yn cael eu hethol i gynrychioli eu cymunedol yn eu cyngor lleol. Yn rhinwedd eich swydd, bydd gennych rôl bwysig wrth ddod i benderfyniadau sy’n effeithio ar fywydau pobl. Mae cynghorau lleol yn gyfrifol am amrywiaeth eang o wasanaethau gan gynnwys gwasanaethau gwastraff, ailgylchu ac amgylcheddol, ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, cynllunio, tai, budd-daliadau, llyfrgelloedd, cludiant a chyfleusterau hamdden. Fel cynghorydd, byddwch yn dylanwadu ar sut mae’r gwasanaethau yma’n cael eu cyflwyno, eu hariannu a’u blaenoriaethu.
Bydd eich dylanwad yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl a’u hardaloedd. Bydd angen i chi gydbwyso buddiannau trigolion eich cymuned, trigolion y fwrdeistref neu’r sir, eich plaid (os oes gennych un) a’r cyngor.
Mae pob cynghorydd yn dadlau achos eu cymunedau ac yn cynrychioli eu hetholaethau unigol pan ofynnir am gyngor neu gefnogaeth. Er bod cynghorwyr yn treulio amser yng nghyfarfodydd y cyngor, maen nhw’n treulio llawer mwy o’u hamser yn eu cymunedau yn siarad ac yn gweithio gyda’r cyhoedd a chylchoedd cymunedol.
Mae gwaith cynghorwyr yn y cyngor yn amrywio yn ôl trefn lywodraethu’r cyngor. Bydd gan y cyngor gyfansoddiad sy’n nodi’r gweithdrefnau ar gyfer dod i benderfyniadau, cylchoedd gorchwyl pwyllgorau mewnol, rôl a chyfrifoldebau deiliaid swyddi penodol, rheolau sefydlog cyfarfodydd, codau ymddygiad a rheoliadau ariannol.
Mae pob cynghorydd yn aelod o’r cyngor llawn sy’n pennu’r polisïau a’r gyllideb gyffredinol. Bydd rhai cynghorwyr yn aelodau o gabinet neu fwrdd gweithredol a bydd yr aelodau sy’n weddill yn gyfrifol am oruchwylio a chraffu ar gyflawniad y cyngor, sefydliadau eraill a chyrff allanol. Mae pwyllgorau rheoliadol yn gyfrifol am feysydd cynllunio a thrwyddedu. Mae cynghorwyr yn cael eu penodi ar gyrff lleol hefyd fel cyrff llywodraethu ysgolion a phartneriaethau lleol. Maen nhw naill ai’n cynrychioli’r cyngor, yn ymddiriedolwyr neu’n gyfarwyddwyr ar eu pen eu hunain. Mae rhai cynghorwyr hefyd yn aelodau o awdurdodau heddlu, awdurdodau tân ac achub yn ogystal ag awdurdodau parciau cenedlaethol, lle bo hynny’n berthnasol.
Hyd yn oed os nad oes gan gynghorydd unrhyw rôl ffurfiol neu os nad ydyw’n aelod o bwyllgor, mae rôl ‘arweinydd y gymuned’ yn berthnasol i bob cynghorydd. Gall hyn olygu sawl peth gan gynnwys hyrwyddo buddiannau eich ward; lobïo am bryderon lleol; dylanwadu ar gyrff partner i weithio tuag at yr un nod; datrys gwrthdaro rhwng cyrff cymunedol; annog cyrff cymunedol i ganfod atebion yn eu cymunedau eu hunain; a chydbwyso’r galw o bob cyfeiriad am adnoddau wrth ddod i benderfyniadau fydd o les i ardal yr awdurdod yn gyffredinol.
Arweinydd cymunedol
I’r cynghorydd unigol, gall bod yn arweinydd cymunedol olygu sawl peth. Hyrwyddo buddiannau’r ardal; lobïo am bryderon lleol; dylanwadu ar bartneriaid i weithio tuag at weledigaeth gyffredin; datrys gwrthdaro rhwng cyrff cymunedol; annog cyrff cymunedol i ganfod atebion yn eu cymunedau eu hunain; a chydbwyso’r galw o bob cyfeiriad am adnoddau wrth ddod i benderfyniadau fydd o les i ardal yr awdurdod yn gyffredinol.
Gallech gael eich penodi hefyd i fod yn aelod o bartneriaeth rhwng y cyngor a chyrff eraill, yn llywodraethwr ysgol neu’n aelod o bwyllgor neu fwrdd corff gwirfoddol lleol. Mae’n bwysig bod y cyngor yn cael ei gynrychioli yn y swyddi yma i allu arwain y gymuned. Gall rhai o’r penodiadau yma fod yn dalcen caled a hwyrach y bydd angen i chi ddysgu rhagor neu feithrin medrau penodol ar gyfer rhai ohonyn nhw. Mae cyfrifoldebau cyfreithiol yn gysylltiedig â rhai ohonyn nhw os byddwch yn cael eich penodi’n gyfarwyddwr neu’n ymddiriedolwr elusen, ond mae’n dibynnu ar drefn gyfreithiol y corff dan sylw. Os ydych yn ansicr, gofynnwch am gyngor cyn cael eich enwebu am swydd.
Mae’n werth mynd ati’n ddiymdroi i weld beth yw’r drefn ar gyfer gwahodd enwebiadau a phenodi ar gyfer pob un o’r swyddi uchod.
Goruchwylio a chraffu
Mae pob cyngor yn gorfod cael o leiaf un pwyllgor goruchwylio a chraffu. Mae gan y rhan fwyaf fwy nag un ohonyn nhw ac maen nhw weithiau’n cael eu galw’n baneli yn hytrach na phwyllgorau. Gan mai cyfran fechan o gynghorwyr sydd yn y cabinet neu’r bwrdd gweithredu, mae’n rhaid i’r mwyafrif wneud gwaith goruchwylio a chraffu pwysig. Mae hyn yn hanfodol fel bod y cynghorwyr gweithredol yn atebol am benderfyniadau, polisïau a gwasanaethau’r cyngor. Gall y gwaith yma fod o gymorth hefyd wrth lunio ac adolygu polisïau yn ogystal âg archwilio materion sy’n peri pryder i’r gymuned leol a gweithgareddau cyrff cyhoeddus eraill.
Nid yw pwyllgorau goruchwylio a chraffu yn cael gwneud penderfyniadau ond maen nhw’n gallu cyflwyno argymhellion i’r bwrdd gweithredol neu’r cyngor llawn. Maen nhw hefyd yn gallu gorfodi cynghorwyr gweithredol ac uwch-swyddogion y cyngor i ddod i’w cyfarfodydd ac ateb cwestiynau. Wrth ystyried penderfyniadau, polisïau a chyflawniad, gall pwyllgorau goruchwylio a chraffu hel tystiolaeth gan y cyhoedd, defnyddwyr gwasanaethau, arbenigwyr annibynnol neu gynrychiolwyr cyrff cyhoeddus eraill i gyfeirio eu canfyddiadau. Gall adolygiadau neu archwiliadau’r pwyllgorau bara misoedd mewn rhai achosion.
Mae gan bwyllgorau goruchwylio a chraffu rymoedd ychwanegol penodol o ran craffu ar droseddau ac anhrefn. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyflwyno deddf sy’n argymell sawl newid fydd yn cryfhau rôl y pwyllgorau gan gynnwys eu galluogi i graffu ar wasanaethau lleol y mae cyrff y tu allan i’r cyngor yn eu cyflwyno.
Y Bwrdd Gweithredol
Y Cabinet neu’r Bwrdd Gweithredol sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o bolisïau’r cyngor. Mae pob aelod o’r cabinet yn gyfrifol am faes penodol fel y gwasanaethau cymdeithasol, yr amgylchedd neu adnoddau dynol a’i ddatblygu’n rhan o raglen waith y bwrdd gweithredol. Nid yw cynghorwyr newydd yn cael eu penodi’n aelodau gweithredol fel arfer. Fodd bynnag, mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o’r rhaglen waith ac yn meithrin cysylltiadau â’r aelodau gweithredol ynghylch materion sy’n ymwneud â’u meysydd penodol yn eich ward.
Cynllunio
Mae gan gynghorwyr rôl hollbwysig yn y broses gynllunio. Rhaid iddyn nhw lunio’r cynllun datblygu lleol sy’n gosod y fframwaith ar gyfer dod i benderfyniadau lleol yn ogystal â’i adolygu a’i fonitro. Rhaid i’r rhai sydd hefyd yn aelodau o’r pwyllgorau cynllunio perthnasol ystyried ceisiadau cynllunio yng nghyd-destun polisïau lleol a gwladol. Fel aelod o bwyllgor cynllunio, byddech yn gysylltiedig â chymeradwyo ceisiadau ac yn ystyried deddfau perthnasol a gofynion y cynllun datblygu lleol.
Trwyddedu
Drwy eu swyddogaethau trwyddedu, mae awdurdodau lleol yn ceisio atal troseddau ac anhrefn, diogelu’r cyhoedd ac amddiffyn plant rhag niwed. Fel aelod o bwyllgor trwyddedu, gallech orfod dod i benderfyniadau am leoedd trwyddedig fel tafarndai a chasinos neu am dacsis, achlysuron neu fasnachwyr ar strydoedd.
Y Pwyllgor Safonau
Rhaid i bob cyngor gael Pwyllgor Safonau. Mae’n gyfrifol am gynnal côd ymddygiad lleol i gadw llygad ar ymddygiad yn ogystal â dyfarnu achosion o gamymddwyn. Rhaid i bob cynghorydd lofnodi’r côd ymddygiad i ofalu eu bod yn cadw’r safonau uchaf. Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn cael gwybod am gwynion ysgrifenedig am achosion honedig o gamymddwyn ac maen nhw’n gallu cymryd sawl cam gan gynnwys cyfeirio achosion at Banel Dyfarnu Cymru.
Y Cyflogwr
Y cyngor yn ei gyfanrwydd yw cyflogwr y gweithlu yn ôl y gyfraith, ac mae arno gyfrifoldebau dros ei weithwyr. Er mai’r cabinet sy’n gyfrifol am bolisïau a materion y gweithlu, gall pwyllgorau trosolwg a chraffu gyflawni rôl ddefnyddiol iawn ynglŷn ag adolygu pa mor effeithiol yw strategaethau, polisïau ac arferion y gweithlu. Er y bydd gorchwylion rheoli a gweithredu beunyddiol yn cael eu dirprwyo i swyddogion, bydd ar bob cynghorydd ddyletswydd gofal o ran y gweithwyr.


