Deddf 'Gwahaniaethu ar sail Rhyw' 1975
Cafodd y ddeddf ei llunio i fynd i'r afael â rhagfarn sydd wedi'i seilio ar ryw neu statws priodasol. Er bod rhagfarn yn erbyn pobl ar sail rhyw yn broses ddwyffordd yn ôl y gyfraith - hynny yw, mae modd i ddyn honni ei fod wedi'i anffafrio yr un fath â merch - y broblem fwyaf yn y gymdeithas yw cydnabod bod merched dan anfantais a gofalu eu bod nhw'n cael pob cyfle teg. Mae'r syniad o anffafrio dynion yr un mor amhriodol, fodd bynnag, ac efallai ei fod yr un mor niweidiol.
Yn ôl y ddeddf, does neb yn cael anffafrio dynion na merched ar sail rhyw na statws priodasol ym meysydd:
- Cyflogaeth
- Hyfforddiant
- Addysg
- Darparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau i'r cyhoedd
Ym maes cyflogaeth, mae'n anghyfreithlon anffafrio rhywun ar sail rhyw neu statws priodasol (boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol) ynghylch:
- Trefniadau'r broses ddethol, megis hysbysebion a chyfweliadau.
- Telerau ac amodau'r swydd.
- Dewis yr ymgeisydd gorau - rhaid penderfynu yn ôl y rhinweddau.
- Cyfleoedd ynghylch dyrchafu, trosglwyddo neu hyfforddi.
- Buddion bydd y cyflogwr yn eu rhoi ar gael.
- Diswyddo, camau disgyblu neu faterion tebyg.
Un o amodau'r ddeddf oedd bod rhaid sefydlu corff o'r enw Comisiwn y Cyfleoedd Cyfartal. Yr Ysgrifennydd Gwladol sy'n penodi ei aelodau.
Dyma brif ddyletswyddau'r comisiwn yn ôl y ddeddf:
- Mynd ati i gael gwared ar anffafrio.
- Hyrwyddo cydraddoldeb dynion a merched.
- Adolygu llwyddiant Deddf 'Gwahaniaethu ar sail Rhyw' 1975 a Deddf 'Cyflogau Cyfartal' 1970.
- Adolygu gofynion anffafriol y deddfau ynghylch iechyd a diogelwch.
Cafodd y ddeddf ei diwygio a'i hehangu ym 1986, a dylid ei darllen ar y cyd â Deddf 'Cyflogau Cyfartal' 1984.

