Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol / Rhwydweithiau Cydraddoldeb / Rhwydwaith Rhwydiaith
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Rhwydwaith Rhwydiaith

Mae'r rhwydwaith yma wedi'i sefydlu i alluogi pob un o awdurdodau lleol a sefydliadau gwladol Cymru i ddod at ei gilydd a thrafod materion strategol sy'n berthnasol i'r Gymraeg, gan gynnwys hyrwyddo dwyieithrwydd ym myd llywodraeth leol Cymru. Fe fydd y rhwydwaith yn cynorthwyo'r swyddogion iaith, hefyd, gan ledaenu gwybodaeth ac arferion da a rhoi'r diweddaraf am y materion a'r mentrau perthnasol. WLGA fydd yn trefnu ac yn cynnal cyfarfodydd y rhwydwaith.

Cyfarfodydd 2011

Yng nghyfarfod diwethaf Rhwydiaith, penderfynwyd y dylid ceisio sicrhau fod cyfarfodydd yn y dyfodol yn cael eu cynnal ar adegau lle bo modd cael y dylanwad mwyaf ar bolisi. Yn benodol, nodwyd yr angen i’r cyfarfod nesaf roi cyfle i swyddogion iaith baratoi ymateb ar y cyd i’r strategaeth iaith Gymraeg newydd. Bydd dyddiad newydd ar gyfer y cyfarfod yma yn cael ei bennu yn syth pan fyddwn ni yn gwybod beth yw’r amserlen ymgynghori ar gyfer y Strategaeth.

Mae rhagor o wybodaeth gan: