Mae rheoli gwastraff yn un o'r gwasanaethau lleol amlycaf bob dydd gan ei fod yn ymwneud â gwagu biniau sbwriel cartrefi a chasglu pethau i'w hailgylchu oddi ar ymyl y palmant a mannau penodol eraill. Mae'n fwyfwy pwysig mynd ati i ddiogelu'r amgylchedd, yn arbennig lleddfu'r newid hinsoddol. Felly, mae'r cynghorau'n cymryd camau i gwtogi ar wastraff. Mae'r cynghorau'n gyfrifol am:
- strategaethau a pholisïau lleol ar gyfer rheoli gwastraff
- ailgylchu a chompostio
- safleoedd amwynderau dinesig/canolfannau ailgylchu gwastraff cartrefi
- safleoedd mae modd gadael pethau i'w hailgylchu arnyn nhw
- glanhau'r strydoedd
- casglu sbwriel, pethau i'w hailgylchu a bwyd gwastraff (cartrefi a siopau)
- tomenni anghyfreithlon
- baw cŵn
- ymwybyddiaeth ac addysg ynglŷn â gwastraff
Mae pobl Cymru yn gadael tua 1.8 miliwn o dunelli o wastraff i'w casglu bob blwyddyn. Er bod 39.2% wedi'i ailgylchu yn 2009/10, rydyn ni'n dal i gladdu dros filiwn o dunelli ac mae rhaid cwtogi ar hynny. Mae Cyfarwyddeb Undeb Ewrop am Gladdu Sbwriel yn pennu faint o wastraff rydyn ni'n cael ei gladdu. Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ofalu bod pawb yn cydymffurfio â'r gyfarwyddeb ac mae wedi pennu targedau i bob awdurdod lleol hyd at 2020. Pe bai cyngor yn methu â chyflawni ei darged, gallai fod rhaid iddo dalu dirwy o £200 am bob tunnell ychwanegol mae wedi'i chladdu.
Mae'r strategaeth wladol, ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff', wedi pennu'r camau allweddol:
- nod y tymor hir – dim gwastraff erbyn 2050;
- nod y tymor canolig – cymdeithas sy'n ailgylchu llawer erbyn 2025.
Mae'r rhan fwyaf o gynghorau'n ymwneud â chydweithio ym maes rheoli gwastraff. Mae rhaglenni ar wahân ar gyfer trin gwastraff gweddilliol (gwastraff na allwn ni ei ailgylchu) a bwyd gwastraff (i greu ynni ar ffurf bionwy a chynhyrchu deunydd maethlon mae modd ei ddefnyddio yn lle gwrtaith artiffisial).
Erbyn mis Hydref 2010, roedd y cynghorau wedi sefydlu 6 chanolfan ar gyfer trin a thrafod gwastraff gweddilliol ar y cyd ledled y wlad. Mae 21 awdurdod yn ymwneud â'r trefniadau ac mae 17 awdurdod ynghlwm wrth fenter arall ynglŷn â bwyd gwastraff. Mae dewisiadau eraill ar gael i'r awdurdodau nad ydyn nhw'n cymryd rhan.
Gwastraff yw'r unig faes ym myd llywodraeth leol lle gallai fod rhaid talu dirwyon am fethu â chyflawni targedau – trwy Undeb Ewrop a Llywodraeth Cymru fel ei gilydd. Felly, dyma'r maes ac iddo'r risgiau mwyaf o safbwynt y cynghorau.
Ffeithiau allweddol
- Rydyn ni'n claddu 1.4 miliwn o dunelli o wastraff trefi Cymru mewn tomenni bob blwyddyn.
- Cafodd 39.2% o wastraff trefi Cymru ei ailgylchu yn 2009/10.
- Erbyn 2012/13, bydd rhaid ailgylchu neu gompostio 52% o wastraff ein trefi.
- Erbyn 2025, bydd rhaid ailgylchu neu gompostio 70% o wastraff ein trefi.
Gwybodaeth ychwanegol


