Rydych chi yma: Hafan / Amdanon ni / Maniffesto CLlLC ar gyfer Etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol (2011 - 2016) -Ymateb i’r Her / Rheoli gwastraff – gwneud defnydd gwell o’n hadnoddau
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Rheoli gwastraff – gwneud defnydd gwell o’n hadnoddau

Mae Llywodraeth Leol wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth newydd Cymru i gyflawni:

  • Argaeledd parhaus a’r defnydd gorau o’r Grant Rheoli Gwastraff Cynaliadwy gyda phosibilrwydd o ddadneilltuo yn y dyfodol unwaith y bydd gan awdurdodau gynlluniau cyflenwi clir wedi eu costio
  • Gweithredu ar gyfrifoldebau cynhyrchwyr (e.e. gofynion ar gyfer llai o becynnu) er mwyn cyflawni nodau lleihau gwastraff gyda gofyniad deddfwriaethol newydd ar fusnesau i wahanu gwastraff cyn ei fod yn ymuno â llif gwastraff trefol
  • Ymgysylltu cymunedol gwell – partneriaeth wedi ei datblygu ymhellach rhwng y llywodraeth a’i dinasyddion i ddileu gwastraff
  • Gweithredu Cynllun Sector Trefol ar gyfer Gwastraff sy’n nodi’r canlyniadau dymunol ac yn galluogi awdurdodau lleol i bennu’r dulliau o gyflenwi hyn
  • Cyflenwi a gwella ein targed lleihau allyriadau carbon.

Cefndir:

Wrth i ni wynebu heriau’r oes newydd mae’n rhaid i ni gydnabod bod gwneud y defnydd gorau o’n hadnoddau, gan weithredu’n gynaliadwy, yn rhan hanfodol ac annatod o’n strategaethau ar gyfer gorchfygu’r argyfwng ariannol ac economaidd. Ni allwn fforddio gwastraffu a chamddefnyddio ein hadnoddau ynni prin. Mae gwneud hynny’n cynyddu costau cynhyrchu ac yn rhoi pwysau mawr ar weithgaredd economaidd. Trwy gyfrannu at newid yn yr hinsawdd, mae ein gorddefnydd o ynni eto’n tanseilio ein heconomi a’n lles.

Mae CLlLC, trwy ei Fframwaith Datblygu Cynaliadwy, wedi bod yn gweithio i godi ymwybyddiaeth ymysg awdurdodau lleol am y camau y mae angen iddynt fod yn eu cymryd i gydnabod, lleihau a, thros amser, gwrthdroi, gweithrediadau sy’n ddibynnol ar garbon a chynyddu eu cadernid. Mae prosiect peilot arloesol gyda phedwar awdurdod hefyd yn edrych ar fesurau addasu y gall cynghorau eu hystyried ar gyfer newid mewn hinsawdd y rhagwelir eisoes fydd yn cael effaith arnom mewn blynyddoedd i ddod o ganlyniad o ormodedd y gorffennol. Bydd angen rhoi’r dull hwn ar waith fesul cam ym mhob awdurdod lleol fel rhan o’r dyletswydd adrodd sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru.

Mae rheoli gwastraff yn ei hanfod yn fater o effeithlonrwydd adnoddau. Mae angen i ni wneud defnydd gwell o adnoddau ac mae hynny’n golygu gweithio i ddileu pob math o wastraff. Mae llawer o’r hyn yr ydym wedi bod yn ei roi mewn safleoedd tirlenwi dros y blynyddoedd o ganlyniad i ‘orddefnydd’ ac mae mewn gwirionedd yn cynnwys adnoddau gwerthfawr fel metelau, tecstilau, gwydr, plastig a phapur. Roedd llawer o’r cynnyrch yn hollol iawn (nid oedd ei eisiau bellach) neu gellid bod wedi ei ailddefnyddio neu ei ailgylchu am gost llawer is (yn economaidd ac i’r amgylchedd) na defnyddio deunyddiau crai. Yn yr un modd, mae bwyd sydd wedi troi’n wastraff fel arfer o ganlyniad i brynu/ defnyddio mwy nag oedd angen. Yn lle llenwi’r tir, gellir ei drin i greu deunydd compost a all roi maethynnau yn ôl i’r pridd.

Gan gydweithio, mae llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol iawn yn y gorffennol diweddar i reoli gwastraff yn well. Mae cyfraddau ailgylchu wedi gwella’n sylweddol. Mae caffaeliadau cydweithredol mawr ar y gweill ar gyfer cyfleusterau i droi gwastraff bwyd yn gompost a throsi gwastraff gweddilliol yn ynni. Mae’r caffaeliadau hyn ymysg y rhai mwyaf a gynhaliwyd yng Nghymru. Maent yn dystiolaeth o allu awdurdodau lleol i weithio gyda’i gilydd ac mewn partneriaeth â’r sector preifat a Llywodraeth Cymru.

Mae llywodraeth leol Cymru wedi cydweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i roi mwy o sicrwydd mewn perthynas ag amcanion polisi, technolegau a graddfeydd amser. Mae cynnydd sylweddol wedi cael ei wneud. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi targedau clir ar gyfer ailgylchu a chompostio gyda dyddiadau ynghlwm. Yn dilyn cymeradwyo Mesur Gwastraff (Cymru), mae’r targedau hyn bellach yn statudol. Ynghyd â’r Cynllun Sector Trefol a gyhoeddwyd yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu ei glasbrint a chaiff gwasanaethau gwastraff cynghorau eu hasesu yn erbyn hwn. Cafodd cyllid ychwanegol ei ddyrannu yn 2010/11 ac i raddau helaeth, mae’r cyllid ychwanegol hwn wedi goroesi’r toriadau. Mae CLlLC a Llywodraeth Cymru wedi parhau i weithio gyda Phartneriaethau Lleol i oruchwylio fforddiadwyedd y rhaglen a chaffaeliad cynnydd trwy gydweithredu gan awdurdodau lleol. Mae rhaglen newid cydweithredol yn cael ei datblygu ar y cyd ar hyn o bryd i gefnogi awdurdodau i lunio a gweithredu cynlluniau wedi eu costio i gyflawni’r targedau mewn ffordd dderbyniol, gynaliadwy. Mae’r holl faterion hyn wedi cael eu goruchwylio gan Fwrdd Rhaglen Gweinidogol.

Mae angen partneriaeth lawn ac effeithiol gyda dinasyddion a chymunedau er mwyn gwneud y gorau o adnoddau a rheoli gwastraff. Rydym yn cynhyrchu llai o wastraff ac yn ailgylchu mwy oherwydd bod awdurdodau lleol yn ymgysylltu â dinasyddion i rannu cyfrifoldeb a newid ffyrdd o fyw. Nid oes achos gwell dros gadw llywodraeth leol na’r dystiolaeth o’r hyn y gellir ei gyflawni trwy’r bartneriaeth hon rhwng cyngor a’i ddinasyddion.