Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Carfan Dysgu Gydol Oes, Hamdden a Gwybodaeth WLGA / Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif

Mae Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn fwy na rhaglen adeiladu

Mae Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif wedi'i sefydlu yn ôl un o addewidion 'Cymru'n Un' ac mae Llywodraeth y Cynulliad, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) a'r awdurdodau lleol yn cydweithio mewn modd unigryw ynddi. Hanfod y rhaglen yw buddsoddi cyfalaf sylweddol dros y tymor hir i greu ysgolion fydd yn addas i'r 21ain ganrif.

Bydd y rhaglen yn neilltuo adnoddau i'r ysgolion priodol yn y lleoedd priodol – boed addysg y blynyddoedd cynnar, cynradd, uwchradd neu ôl-16 – o dan nawdd Llywodraeth y Cynulliad a'r awdurdodau lleol.

Beth ydy amcanion y rhaglen?

Fe fydd Llywodraeth Cynulliad Cymru, law yn llaw â maes llywodraeth leol, yn gwireddu’r nodau isod trwy gyfrwng rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain:

  • Amgylchfydoedd ar gyfer dysgu plant a phobl ifainc rhwng 3 a 19 oed a fydd yn hyrwyddo gweithredu strategaethau ar gyfer gwella safonau ysgolion a deilliannau addysgol;
  • Cyfundrefn addysg gynaladwy, trwy ddefnyddio adnoddau’n fwy effeithiol I ofalu bod cyfleusterau’n cael eu defnyddio’n fwy effeithlon a chosteffeithiol ac un a fydd yn gwella safon darpariaethau gwladol yn lleol; ynghyd â
  • Pennu Safon ar gyfer Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain a fydd yn cwtogi ar gostau sy’n codi dro ar ôl tro a chwtogi ar losgi tanwydd ac allyriadau carbon.

Am wybodaeth bellach ar y rhaglen, canllaw, arfer gorau ac astudiaethau achos ewch i www.ysgolion21ganrif.org neu cysylltwch a: