Fis Mawrth 2011, cyflwynodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chanolfan y GIG dros Gydraddoldeb a Hawliau Dynol raglen hyfforddi newydd i swyddogion cydraddoldeb.
Hanfod Rhaglen Rheoli Newidiadau i Swyddogion Cydraddoldeb yw cyfanswm o 8 diwrnod dysgu dros 10 mis. Y nod yw helpu swyddogion i ddeall a defnyddio egwyddorion datblygu cyfundrefnol, rheoli newidiadau, arloesi a gwella gwasanaethau.
Erbyn diwedd y rhaglen, bydd pawb wedi llunio ei rôl ynghylch sbarduno newidiadau a mireinio ei wybodaeth, ei fedrau, ei ymddygiad a'i rinweddau fel y gall helpu i newid cyfundrefn a hwyluso'r newidiadau trawsffurfiol y bydd eu heisiau i ddiwallu anghenion gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn y dyfodol.
Mae rhai o ddeunyddiau ategol y rhaglen ar gael isod. Mae rhagor o wybodaeth gan:
Anna Morgan (WLGA) anna.morgan@wlga.gov.uk 029 2046 8661
Voirrey Manson (NHS CEHR) Voirrey.manson2@wales.nhs.uk 01443 233498


