Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Gwella a llywodraethu / Cynorthwyo a datblygu cynghorwyr / Rhaglen Gyflwyno’r Cynghorwyr 2012
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Rhaglen Gyflwyno’r Cynghorwyr 2012

Bydd WLGA yn helpu’r awdurdodau i gynnig cymorth i gynghorwyr newydd a phrofiadol fel ei gilydd ar ôl etholiadau llywodraeth leol 2012. I’r perwyl hwnnw, fe fydd amrywiaeth o ddeunyddiau a gweithgareddau ar gael.

1. Mae gwybodaeth ar gael i ymgeiswyr ar ffurf copi caled, ac mae rhagor ar y we:
http://www.wlga.gov.uk/english/be-a-councillor/

2. Bydd amryw ddeunyddiau i’w cyflwyno’n lleol trwy weithdai ac ati:

  • Adolygu llywodraethu yng Nghymru 
  • Rôl y cynghorydd cyfoes 
  • Moeseg, gonestrwydd a phrotocolau 
  • Arian byd llywodraeth leol 
  • Cydraddoldeb 
  • Cyflwyno materion craffu 
  • Cyflwyno materion cynllunio

Mae copïau drafft o’r gweithdai ar wefan Cymuned Arferion Rhwydwaith Swyddogion Cynorthwyo Cynghorwyr Cymru. Byddwn ni’n parhau i’w diweddaru nhw yn ôl newidiadau yn y gyfraith a’r canllawiau gan Lywodraeth Cymru.

3. Deunyddiau y gall cynghorwyr eu hastudio ar eu pennau eu hunain. Mae modd eu haddasu ar gyfer gweithdai, hefyd:

http://www.wlga.gov.uk/english/councillor-workbooks-for-personal-development/

4. Llawlyfr y Cynghorwyr – Llyfryn printiedig fydd ar gael i gynghorwyr newydd a phrofiadol erbyn gwanwyn 2012.

5. Seminarau rhanbarthol am rôl gyfnewidiol cynghorwyr ynglŷn ag arwain y gymuned, cydweithio a chraffu’n effeithiol.

6. Mae Prifysgol Morgannwg am gyflwyno cymhwyster MSc i gynghorwyr yn 2013.

7. Mae WLGA yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu yn ôl y galw, hefyd. Er enghraifft:

  • Cymorth ynglŷn â rhaglenni cyflwyno
  • Datblygu aelodau o’r cabinet 
  • Meithrin medrau craffu 
  • Meithrin medrau cadeirydd 
  • Meithrin medrau mentora 
  • Cyflwyno proses adolygu datblygiad personol

 

Mae rhagor o wybodaeth gan: Sarah Titcombe