Cafodd Rhaglen Gwella Cymru ei chyflwyno yn 2002 i gymryd lle Rhaglen y Gwerth Gorau yng Nghymru. Y bwriad oedd llunio ffordd leol o wella lle byddai pob cyngor yn cael asesu ei gyflwr corfforaethol a gwaith ei wasanaethau, a mynd ati i'w gwella.
Mae'r rhaglen wedi'i newid yn sylweddol trwy Fesur 'Llywodraeth Leol' Cymru 2009. Mae'r mesur wedi ceisio gofalu bod gwaith cynllunio'r cynghorau ar gyfer y tymor byr a gwelliannau blynyddol (trwy Raglen Gwella Cymru) yn cydblethu â'u cynllunio strategol ar gyfer y tymor hirach (y strategaeth gymunedol).
Mae gofyn i bob awdurdod sefydlu trefniadau i ofalu ei fod yn gwella'n barhaus wrth gyflawni ei swyddogaethau. Dyma'r diffiniad o wella yn ôl y canllawiau statudol: '...mwy na dim ond gwelliannau mae modd eu mesur yn allbwn neu effeithlonrwydd gwasanaethau ac effeithiolrwydd mewnol unrhyw sefydliad. Yn hytrach, dylai fod unrhyw beth sy'n gwella byd dinasyddion a chymunedau lleol yn gynaladwy'.
Dylai pob awdurdod gyhoeddi ei amcanion ar gyfer gwella bob blwyddyn, yn ôl y 7 agwedd sydd wedi'u hamlinellu yn y mesur:
- Effeithiolrwydd strategol
- Ansawdd gwasanaethau
- Argaeledd gwasanaethau
- Tegwch
- Cynaladwyedd
- Effeithlonrwydd
- Arloesi
Mae gan awdurdodau ddyletswyddau a phwerau ehangach trwy Raglen Gwella Cymru:
- Pwerau ynglŷn â chydweithio.
- Dyletswydd ynglŷn â chydweithio 'o bryd i'w gilydd' i hwyluso gwella, a dyletswydd ynglŷn â chyhoeddi 'manylion am y modd mae'r awdurdod wedi defnyddio ei bwerau o ran cydweithio’.
- Dyletswydd ynglŷn ag ymgynghori am amcanion gwella.
- Dyletswydd ynglŷn â chymharu a chyhoeddi gwybodaeth am yr hyn sydd wedi'i gyflawni.
At hynny, mae'r mesur yn gofyn i Brif Archwilydd Cymru gydlynu'n fwy effeithiol waith yr amryw arolygiaethau a chyrff rheoleiddio yn yr awdurdodau. Yn ymateb i hynny, mae Swyddfa Archwilio Cymru, Arolygiaeth Iechyd Cymru, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ac Estyn wedi dod i gytundeb strategol.
Asesodd Swyddfa Archwilio Cymru gyflwr corfforaethol pob awdurdod yn 2010. Er y bydd yn parhau i gyhoeddi adroddiadau am drefniadau llywodraethu pob awdurdod yn flynyddol, mae'r adroddiadau hynny wedi'u seilio ar raglen dreigl o adolygiadau ysgafnach heb adroddiad cynhwysfawr am yr asesu corfforaethol bob blwyddyn ar yr amod nad oes amgylchiadau lleol eithriadol. Mae WLGA, Swyddfa Archwilio Cymru a'r cyrff rheoleiddio eraill yn ystyried rôl hunanasesu, ac asesu/cwestiynu trwy gyfatebion, i gryfhau natur lleol y gwella eto fyth a chadw'r ddysgl yn wastad rhwng cwestiynu mewnol/allanol a rheoleiddio.
Linciau a chyhoeddiadau
- Cydweithio er mwyn Cefnogi Gwelliannau: Cytundeb Strategol rhwng Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), Estyn, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), Swyddfa Archwilio Cymru - Mawrth 2011
- Canllawiau 2010 am Raglen Gwella Cymru (Llywodraeth Cymru)
- Canllawiau 2010 am gynllunio cymunedol (Llywodraeth Cymru)
- Cynlluniau gwella'r awdurdodau lleol
- Cynlluniau gwella'r awdurdodau lleol (Swyddfa Archwilio Cymru)


