Fis Rhagfyr 2009, gofynnodd y Dirprwy Weinidog dros Faterion Tai ac Adfywio i Syr Mansel Aylward lywio adolygiad annibynnol o gymorth sy'n ymwneud â thai yng Nghymru. Ynghyd â Chartrefi Cymunedol Cymru, Cymorth a Rhwydwaith Gwybodaeth am Raglen 'Cefnogi Pobl', sefydlodd WLGA gylch cynghori budd-ddalwyr fyddai'n cwrdd â'r tîm adolygu bob mis.
Cyhoeddodd y tîm ei adroddiad a'i argymhellion fis Hydref 2010 ac fe roes y Dirprwy Weinidog dros Faterion Tai ac Adfywio a gweddill Cabinet Llywodraeth y Cynulliad sêl eu bendith arnyn nhw. Mae'r argymhellion yn cael eu rhoi ar waith o dan oruchwyliaeth cylch llywio ac iddo fudd-ddalwyr allweddol a thair ffrwd waith: Gwasanaethau o safon; Llywodraethu; Rheoleiddio a materion ariannol.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Sue Finch


