Rydyn ni'n cynrychioli buddiannau 22 awdurdod lleol Cymru ac mae awdurdodau'r pedwar heddlu, y tri gwasanaeth tân ac achub a'r tri pharc cenedlaethol yn aelodau cyswllt. Mae pob un o'r cyrff hynny'n defnyddio adnoddau ariannol, technolegol a dynol wrth gynnig amrywiaeth helaeth o wasanaethau statudol a dewisol i ddinasyddion ledled y wlad. Y dinasyddion sy'n ariannu'r adnoddau hynny trwy eu trethi a'u taliadau ac mae nifer yr adnoddau sydd ar gael a modd eu defnyddio'n hanfodol i safon ac ehangder y gwasanaethau ar gyfer dinasyddion. Felly, mae materion adnoddau byd llywodraeth leol ac awdurdodau'r heddluoedd, y gwasanaethau tân ac achub a'r parciau cenedlaethol yn berthnasol inni i gyd. Mae materion o'r fath yn fwyfwy pwysig ar hyn o bryd am fod llai o arian yng nghoffrau'r wlad er bod y galw am wasanaethau cyhoeddus o safon yn cynyddu. Mae'r rhan hon o wefan WLGA yn ymwneud ag adnoddau ariannol a thechnolegol y cyrff rydyn ni'n eu cynrychioli.
Mae byd llywodraeth leol Cymru yn cael y rhan fwyaf o'i arian ar ffurf grantiau o Lywodraeth y Cynulliad. Yn ei thro, mae Llywodraeth y Cynulliad yn cael ei harian hithau o Drysorlys EM (www.hm-treasury.gov.uk). Trwy Fformiwla Barnett (wedi'i seilio ar nifer y trigolion) mae'r prif newidiadau yng Nghyllideb Llywodraeth y Cynulliad yn cael eu pennu. Er 1997, mae'r newidiadau hynny wedi dod bob yn ail flwyddyn yn adolygiadau Llywodraeth y DG o'i gwariant, sy'n pennu'n gadarn faint mae pob adran yn cael ei wario dros dair blynedd. At hynny, mae'r awdurdodau lleol yn cael incwm trwy drethi busnes – treth wladol sy'n cael ei chasglu'n lleol. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn pennu faint o arian sydd i'w roi i fyd llywodraeth leol bob blwyddyn yn rhan o broses dyrannu ei hadnoddau. Mae'n pennu sut bydd yn dyrannu'r grant craidd ymhlith yr awdurdodau trwy fformiwla ariannu wedi'i seilio ar boblogaeth pob ardal (Is-gylch Dosbarthu).
Mae byd llywodraeth leol yn cael peth incwm trwy dreth y cynghorau hefyd, yn ogystal â chodi tâl am rai gwasanaethau a llog am fuddsoddiadau.
Mae llawer o'n gwaith yn ymwneud ag esbonio a phwysleisio goblygiadau polisïau newydd o ran adnoddau, yn ogystal â lobïo dros newid y drefn a chyflwyno safbwynt y cyrff rydyn ni'n eu cynrychioli mewn trafodaethau a phrosesau ymgynghori gyda Llywodraeth y Cynulliad.
Mae'n gwaith ni'n cynnwys materion gwella hefyd, nid lleiaf trwy fyrddau'r pedair partneriaeth ranbarthol sy'n hyrwyddo cydweithio, effeithlonrwydd a gwella yn ogystal â'r cyfungyrff rhanbarthol dros faterion caffael sy'n hybu trefniadau caffael mwy strategol ac effeithiol ym myd llywodraeth leol.
At hynny, rydyn ni'n hyrwyddo e-lywodraethu yn rhan annatod o broses moderneiddio byd llywodraeth leol a'r ymdrechion i gynnig gwasanaethau lleol yn fwy effeithlon. Rydyn ni'n lobïo dros roi cyfleusterau band eang ar gael ledled y wlad, hefyd.
Wrth gyflawni'n rôl ni, rydyn ni'n cydweithio'n agos ag amryw gylchoedd arbenigol ym myd llywodraeth leol megis Cymdeithas Trysoryddion Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae rhagor o wybodaeth gan: Ness Young


