Diben gwasanaethau rheoleiddio'r awdurdodau lleol yw diogelu'r cyhoedd a gofalu bod masnachu teg trwy drwyddedu a rheoleiddio gweithgareddau a safleoedd, cynghori am iechyd y cyhoedd a safonau masnach, a chymryd camau gorfodi lle bo angen.
Rôl yr awdurdodau lleol
Gweithgaredd gorfodi mwyaf Cymru a Lloegr yw gwasanaethau safonau masnach a iechyd amgylcheddol yr awdurdodau lleol. Maen nhw'n gorfodi ynghylch cannoedd o ddeddfau a rheoliadau yn y rhan fwyaf o sectorau diwydiannol a masnachol. Mae'u rôl yn ymwneud â llawer mwy na gorfodi, fodd bynnag. Mae'r gwasanaethau'n cyflawni rôl hanfodol yn eu cymunedau ac yn rhoi cymorth allweddol i gwmnïau lleol. Mae'r gwasanaethau craidd hyn i'r cyhoedd yn ymwneud ag ansawdd a safonau bywyd. Maen nhw'n gofalu bod ein cymunedau'n ddiogel o ran byw, siopa ac adloniant.
Mae gwasanaethau rheoleiddio'r cyngor yn ymwneud â:
- iechyd amgylcheddol
- safonau masnach
- rheoli llygredd
- difa plâu
- rheoli adeiladu
- cynghori
- trwyddedu
- diogelwch bwyd
- iechyd a diogelwch
- iechyd a lles anifeiliaid
Mae'r awdurdodau lleol am ddiogelu'r cyhoedd trwy orfodi'n rhagweithredol ynglŷn â'r gyfraith a rhoi cyngor i leddfu'r peryglon i iechyd, atal niwsans a chwtogi ar droseddu ac anhrefn.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Simon Wilkinson


