Mae pob cyngor yn cadw trefn ar ei weithgareddau trwy’i drefniadau ei hun ar gyfer llywodraethu, paratoi adroddiadau mewnol, a rheoli ei adnoddau a'i gyflawniad. Mae rhai o’r cyfrifoldebau yma i’w cyflawni gan swyddogion penodol megis Swyddog Adran 151 (materion ariannol), Swyddog Cadw Llygad (cadw at y gyfraith) a’r Prif Archwiliwr Ariannol Mewnol. Mae cyrff allanol yn rheoleiddio cydymffurfiaeth a chyflawniad y cyngor ar ran Llywodraeth y Cynulliad (a Llywodraeth San Steffan, weithiau, hefyd).
Mae perthynas byd llywodraeth leol â'r cyrff rheoleiddio wedi datblygu'n un sy'n ymwneud â chynorthwyo yn hytrach na chadw trefn, fodd bynnag.
Yn ogystal â'r cyrff rheoleiddio, mae sawl asiantaeth arall sy'n cynorthwyo'r awdurdodau lleol.
Mae dolenni cyswllt â gwefannau'r cyrff hynny ar y dde.
