
Yn 2006, sefydlodd WLGA bedwar bwrdd rhanbarthol. Arweinyddion a phrif weithredwyr cynghorau'r rhanbarth dan sylw yw aelodau pob bwrdd. Rôl y byrddau yw dechrau, hybu a chloriannu cydweithio yn eu rhanbarthau. Mae rhai o swyddogion WLGA – cydlynwyr rhanbarthol – yn cynorthwyo'r byrddau. Mae cydnabyddiaeth eang bod y drefn newydd yn un arloesol a llwyddiannus ynghylch llywio'r cydweithio sy'n mynd rhagddo yn barod a'r hyn sydd ar y gweill. Dyma'r pedwar bwrdd:
Mae'r byrddau wedi galluogi gwleidyddion etholedig i ddechrau, hyrwyddo a chloriannu'r partneriaethau mae angen eu cynnal. At hynny, mae'r cydlynwyr rhanbarthol yn cydweithio i ofalu bod syniadau arloesol a'r arferion gorau yn croesi ffiniau ac yn arwain at ragor o gydweithio.
Fis Hydref 2008, cyhoeddodd WLGA 'Cydweithio – Astudiaethau Achos yn Llywodraeth Leol Cymru' – casgliad o ryw 50 o astudiaethau am gydweithio. Mae'r ddogfen yn rhoi amryw enghreifftiau o'r modd mae awdurdodau lleol Cymru wedi gosod sylfaen cadarn ar gyfer datblygu rhwydweithiau cydweithio sy'n croesi ffiniau sirol. Er nad yw'n rhestru'r cydweithio i gyd sy'n mynd rhagddo, mae'n cynnig digon o astudiaethau i ddangos nad yw cydweithio'n syniad newydd a'i fod wedi ennill ei blwyf.
Dyw cydweithio ddim yn nod ynddo'i hun. Dim ond pan fo'n arwain at well gwasanaethau a chostau is y bydd modd ei gyfiawnhau. Bydd y rhan fwyaf o wasanaethau ar gael ym mhob bro o hyd. Gall awdurdodau lleol gydweithio i un o'r dibenion isod neu ragor:
· Lledaenu gwybodaeth am yr hyn sy'n llwyddo a newid prosesau yng ngoleuni'r wybodaeth honno lle bo'n briodol.
· Paratoi cynlluniau rhanbarthol a chytuno arnyn nhw lle bydd penderfyniadau'r naill awdurdod lleol yn effeithio ar y llall.
· Prynu nwyddau a gwasanaethau, gan ddatblygu a rheoli marchnadoedd a chadwyni cyflenwi sy'n croesi ffiniau gweinyddol.
· Cynnig gwasanaethau lle bydd modd hwyluso arbedion maint ym mhrosesau rhai trafodion, ychwanegu at gadernid trwy sefydlu carfanau ehangach neu wella safonau trwy arbenigo.
