Mae Pwyllgor y Rhanbarthau (PyRh) wedi sefydlu rhyng-grwp argyfwng y sector ceir. Fe fydd y grwp, sydd yn cynrychioli 45 rhanbarth ar draws Ewrop, yn cyfarfod yn ystod Cyfarfodydd Llawn PyRh, gan edrych ar y materion sydd yn berthnasol i'r argyfwng yn y sector ceir. Arweinir y grwp gan y Llywydd Jean-Yves Le Drian o ranbarth Llydaw, ac mae'r grwp yn cynnwys Aelod WLGA ar PyRh, y Cyng. Bob Bright. Mae rhagor o wybodaeth ar y grwp i'w weld yma.
Datblygiadau diweddaraf
- 'Datganiad ar y Strategaeth Ewropeaidd ar gyfer cerbydau glân ac yn defnyddio ynni mewn modd effeithiol' (Mehefin 2010)
- Cyfarfodd y rhyng-grwp ym Mrwsel ar 18/19 Mehefin 2009, a gellir gweld nodiadau y cyfarfod fan yma. Mae'r cyflwyniadau a'r esiamplau rhanbarthol i'w weld isod (Saesneg yn unig):
Cyflwyniadau
- 'Fframwaith dros dro ar gyfer mesurau Cymorth Gwladwriaethol' (DG Cystadleuaeth y Comisiwn Ewropeaidd)
- 'Partneriaeth yn rhagweld newid yn Niwydiant y Sector Ceir' (Ffederasiwn Ewropeaidd gweithwyr y Sector Metal)
- 'Yr argyfwng yn y Sector Ceir: yn ymateb i'r argyfwng a rhagweld newid' (Cymdeithas Ewropeaidd Cyflenwyr y Sector Ceir (CLEPA))
- 'Mesurau sydd wedi ei gyd-ariannu gan EGF yn Castilla y León, Sbaen'
- 'Mesurau newydd yr EGF - y Gronfa Addasu Globaleiddio Ewropeaidd' (DG Cyflogaeth, Materion Cymdeithasol a Chyfleoedd Cyfartal y Comisiwn Ewropeaidd)
- 'Sut i gefnogi cystadleurwydd y sector ceir yn ein tiriogaethau?' (DG Diwydiant ac Arloesedd y Comisiwn Ewropeaidd)
- 'Cynlluniau cefnogaeth Ewropeaidd ar gyfer rhwydweithio clystyrau yn y sector ceir' (DG Diwydiant ac Arloesedd y Comisiwn Ewropeaidd)
Esiamplau Rhanbarthol
- iDforCAR (Ffrainc)
- Clwstwr y Sector Ceir yng Nghorllewin Canolbarth Lloegr (D.U.)
- CEAGA - Clwstwr Diwydiannau y Sector Ceir yn Galicia (Sbaen)
- Clwstwr y Sector Ceir yn Wielkopolska (Gwlad Pwyl)
- AVIA - Cymdeithas y Diwydiant Ceir yn Valencia (Sbaen)
- 'Automotive Power Styria' (Awstria)
- Fforwm y Sector Ceir yn Castilla y León (Sbaen)
2010
Mabwysiadodd PyRh 'opiniwn ar liwt ei hun' ar argyfwng y sector ceir yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 10 Chwefror 2010. Mae'r opiniwn, gyda'r Llywydd Le Drian yn rapporteur, yn galw am 'Fargen Newydd' Ewropeaidd ar gyfer y sector ceir, yn ogystal â sefydlu trafodaeth ar lefel Ewropeaidd rhwng yr hapddalwyr perthnasol. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yn y datganiad i'r wasg.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Iwan Williams


