Rydych chi yma: Hafan / Pynciau / Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol / Cymunedau Newydd / Pwy yw gweithwyr ymfudol, ffoaduriaid a'r rhai sy'n gofyn am loches?
 

Pwy yw gweithwyr ymfudol, ffoaduriaid a'r rhai sy'n gofyn am loches?

Gweithiwr ymfudol

Mabwysiadodd Prif Gynulliad y Cenhedloedd Unedig y cytundeb rhyngwladol luniodd ei Gomisiwn Uchel dros Ffoaduriaid (UNHCR) am hawliau gweithwyr ymfudol a'u teuluoedd fis Rhagfyr 1990. Dyma'r diffiniad o weithiwr ymfudol:

‘Rhywun fydd, sydd neu a fu'n gyflogedig mewn gwlad nad yw'n ddinesydd ohoni.’

  • Mae Cymru wedi elwa ar ddoniau a medrau gweithwyr ymfudol.
  • Mae gwerth y trethi mae gweithwyr ymfudol yn eu rhoi yn fwy na gwerth y gwasanaethau maen nhw'n eu cael.

Ffoadur

Dyma ddiffiniad Cytundeb Genefa 1951:

‘Rhywun mae ofn erlid arno – am resymau da – o achos ei dras, ei grefydd, ei genedl, ei garfan gymdeithasol neu ei farn wleidyddol sydd tu allan i'w wlad enedigol a heb allu dychwelyd iddi neu, o achos ofn o'r fath, yn anfodlon gwneud hynny.’

  • Cafodd Cytundeb Genefa 1951 ei lunio yn sgîl hil-laddiad yn yr Ail Ryfel Byd.
  • Mae llai na 3% o ffoaduriaid y byd yn byw yn y DG.

Rhywun sy'n gofyn am loches

Dyma ddiffiniad:

‘Rhywun mae llywodraeth y wlad wrthi'n ystyried ei gais am statws ffoadur.’

  • Bydd rhywun dibriod o'r fath dros 25 oed yn cael £39.34 yr wythnos, sef dwy ran o dair o lefel arferol budd-dal cynnal incwm.

Mae rhagor o wybodaeth gan: