Mae'r awdurdodau lleol wedi rhoi pwyslais sylweddol ar ymgysylltu â phobl hŷn a hyrwyddo trefniadau cyfranogi ar eu cyfer.
I wneud hynny, maen nhw wedi sefydlu ffora sydd wedi helpu pobl dros 50 oed i gymryd rhan ym maes llywodraeth leol ac wedi hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol. Mae sawl awdurdod wedi sefydlu mentrau sy'n dod â phobl hŷn ac ifanc at ei gilydd i feithrin amgyffred a pharch rhwng cenedlaethau.
Nod prosiect yr ymgysylltu â phobl dros 50 oed yw gofalu eu bod wrth wraidd y prosesau penderfynu ynghylch comisiynu, trefnu a chynnig gwasanaethau i bobl hŷn a threfniadau eraill ar gyfer llywodraethu'n lleol.
Mae'r prosiect yn anelu at bobl dros 50 oed a chanddyn nhw farn a sylwadau cryf am fyd llywodraeth leol a'r gwasanaethau i bobl dros 50 oed. Y bwriad yw rhoi iddyn nhw'r gefnogaeth, y cymorth a'r cyfleoedd priodol i'w helpu i chwalu'r meini tramgwydd presennol a chymryd rhan yn y gyfundrefn.
Cynulleidfa arall i'r prosiect yw'r arbenigwyr sy'n ymwneud â threfnu, comisiynu a chynnig gwasanaethau i'r rhai dros 50 oed i ofalu eu bod yn gwerthfawrogi manteision ymgysylltu'n effeithiol â phobl hŷn a bod modd iddyn nhw wneud hynny.
