Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Carfan Dysgu Gydol Oes, Hamdden a Gwybodaeth WLGA / Gwasanaethau (Plant ac Ysgolion) Cymru / Prosiect 'Cau'r Bwlch'
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Prosiect 'Cau'r Bwlch'

Un o'r dyheadau sy'n gyffredin i awdurdodau lleol Cymru a Llywodraeth Cymru yw cynnig cyfle teg go iawn i bob plentyn ynghylch addysg. Er bod safonau cyrhaeddiad yr ysgolion wedi codi yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, mae'r bwlch rhwng y rhai gorau a gwaethaf heb newid. Ynglŷn â pharatoi ar gyfer y byd mawr, mae gobeithion rhai plant yn well o lawer nag eraill.

Mae Prosiect 'Cau'r Bwlch' wedi'i gyflawni trwy ddau gam:

Cafodd adroddiad o'r cam cyntaf,  ystyried effaith pontio rhwng addysg gynradd ac uwchradd ei gyhoeddi yn 2002. Mae'r adroddiad ‘Cau’r Bwlch ym Mherfformiad Ysgolion’ yn nodi agweddau llwyddiannus yr ysgolion sy'n profi nad yw amddifadedd yn arwain at safonau gwael o reidrwydd.

Yr ail gyfnod, ystyried datblygiadau yn y cam cychwynnol a adroddwyd yn 2005. Gwnaed adroddiad ‘Prosiect Cau'r Bwlch ym Mherfformiad Ysgolion: Ysgolion Cynradd Cyfnod II’ gan dîm ymchwil o Brifysgol Morgannwg.  

Mae'r ddau adroddiad yn dangos y nodweddion sy'n gyffredin i'r ysgolion llwyddiannus megis arweiniad clir a chyswllt cadarn â'r gymuned.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Daisy Seabourne