Cyrchu gwefan WLGA heb roi'ch enw chi
Cewch chi gyrchu ein tudalen hafan a phori'r wefan gyhoeddus heb fewngofnodi na defnyddio cyfrinair. Dim ond i aelodau WLGA mae peth gwybodaeth ar gael, fodd bynnag, ac efallai y bydd rhaid defnyddio cyfeiriad parod (cookie) fel y gallwn ni wirio manylion y sawl sydd am gyrchu gwybodaeth o'r fath.
Casglu gwybodaeth yn awtomatig
Fel pob gwefan arall, mae'r wefan yma'n cadw cofnod o'r tudalennau sydd wedi'u darllen (ond nid y rhai a'u darllenodd) yn awtomatig. Bydd y sustem gofnodi yn casglu data technegol eraill megis sustem weithredu, porydd/dull cyrchu ac eglurder cyfrifiadur pawb sy'n cyrchu'r wefan). Bydd yn cofnodi ble ar y Rhyngrwyd mae'r wefan wedi'i chyrchu, hefyd, ond nid i nodi neb yn bersonol. Dim ond i baratoi data ystadegol am ddefnyddwyr anhysbys mae'r wybodaeth honno i'w defnyddio. Fydd y sustem ddim yn casglu unrhyw ddata eraill, ac WLGA fydd yn cadw'r hyn sy'n cael ei gasglu ar gyfer cynnal a gwella'r wefan yn unig.
Datgelu manylion personol
Dyw WLGA ddim yn cadw gwybodaeth bersonol am y rhai sy'n cyrchu ei gwefan, oni bai eu bod nhw wedi rhoi manylion personol o'u gwirfodd trwy ebost neu wrth ymholi am ein gwasanaethau neu gyflwyno cais i'w defnyddio. Yn yr achosion hynny, dim ond i roi'r wybodaeth neu'r gwasanaeth a fynnoch chi bydd WLGA yn defnyddio'r data personol a roesoch chi iddi.
Hysbysiad am ddiogelu data
Mae WLGA yn trafod data personol yn unol â Deddf 'Diogelu Data' 1998. Weithiau, efallai y byddwn ni'n cysylltu â chi trwy'r post, ffôn, ffacs, ebost neu neges electronig arall am nwyddau a gwasanaethau a allai fod o ddiddordeb ichi yn ein barn ni.O roi'ch manylion cyswllt, rydych chi'n fodlon inni gysylltu â chi trwy'r dulliau hynny ar gyfer marchnata. Wrth roi gwybodaeth bersonol ar ein gwefan ni, cewch chi gyfle i nodi'r amodau ynglŷn â sut rydyn ni'n ei defnyddio.Os yw'r wybodaeth a roesoch chi i WLGA trwy'r wefan yma wedi'i defnyddio'n groes i'ch cyfarwyddiadau i ni, cysylltwch â'n gwefeistr yn ddiymdroi.
