Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Yr amgylchedd ac Adfywio / Adfywio / Porthladdoedd a chyfleoedd i gynhyrchu ynni ar y môr
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Porthladdoedd a chyfleoedd i gynhyrchu ynni ar y môr

Offshore Wind Farm

© Crown copyright (2011) Visit Wales

Yn ôl astudiaeth gynhaliodd cwmni Arup ar ran Adran Llywodraeth y DG dros Ynni a’r Newid Hinsoddol yn ddiweddar, mae modd ehangu ffynonellau ynni adnewyddadwy i ateb dros draean o alw’r DG am ynni erbyn 2030. Gwynt ar y môr sy’n cynnig y cyfleon gorau (41GW).

Mae amryw brosiectau ar y gweill i ddefnyddio gwynt ar y môr ac mae bwriad i fuddsoddi llawer o arian ar eu cyfer. Er enghraifft:

  • Cafodd cwmni RWE npower renewables hawl i adeiladu cyfleusterau yng nghanol Môr Hafren (Cyfres 3, Parth 8). Mae’n ymgynghori am ei fwriad i godi fferm wynt o’r enw Atlantic Array gwerth £3 biliwn erbyn 2016. Bydd yno 417 o dyrbinau sy’n gallu cynhyrchu hyd at 1500MW o drydan. Mae disgwyl y bydd yn cynhyrchu digon i ddiwallu anghenion tua 1.1. miliwn o gartrefi’r DG bob blwyddyn – cyfwerth â thros 90% o alw cartrefi Cymru.
  • Yn y gogledd, mae bwriad i fuddsoddi £2 biliwn mewn prosiect o’r enw Gwynt y Môr ac iddo 160 o dyrbinau. Mae llanw’r môr yn cynnig llawer o bosibiliadau hefyd, ac mae rhai mentrau cyffrous, megis Ynys Ynni ar Ynys Môn, ar y gweill. Bydd buddsoddi mawr o’r fath yn arwain at lawer o waith adeiladu, cynhyrchu, cynnal/cadw a chyflenwi fydd yn creu sawl swydd yng Nghymru, ond mae’n bwysig bod yn effro i’r cyfleoedd hynny a mynd ati i ddenu buddsoddwyr gan y bydd llawer o leoedd eraill yn cystadlu am eu sylw.

Mae porthladdoedd yn hanfodol yn hynny o beth, a chomisiynodd WLGA beth ymchwil i ystyried y cyfleoedd sydd yng Nghaergybi, Port Talbot, Mostyn ac Aberdaugleddau. Fe fydd yr ymchwil yn ategu adroddiad cwmni DTZ i Lywodraeth Cymru am effaith economaidd ynni carbon isel ar borthladdoedd Cymru Yn ôl yr adroddiad hwnnw, fe fydd nifer y swyddi sy’n dibynnu ar ynni carbon isel ym mhorthladdoedd Cymru yn codi at 1,000–3,000 erbyn 2020 o’i gymharu â thua 350 ar hyn o bryd. Bydd y rhan fwyaf o’r rheiny’n ymwneud â gwynt ar y môr a biomas erbyn hynny. Mae disgwyl mai yn y ddau faes hynny y bydd dros 90% o’r swyddi sy’n ymwneud â charbon isel.

Mae WLGA wedi llunio disgrifiad o bob un o’r pedwar porthladd uchod (gweler y cyhoeddiadau cysylltiedig isod) gan roi manylion pob un a’r datblygiadau sydd ar y gweill yn ogystal â dadansoddi trafnidiaeth yn y porthladd ar hyn o bryd, cyfleoedd i gynhyrchu ynni ar y môr, effaith ar gadwyn y cyflenwi a’r medrau y bydd eu hangen. Mae awdurdodau’r porthladdoedd dan sylw a’r awdurdodau lleol perthnasol wedi helpu i lunio’r deunydd.

Er nad yw Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am faterion porthladdoedd, mae’n gyfrifol am sawl swyddogaeth sy’n berthnasol i’w gwaith megis cynllunio, datblygu’r economi a thrafnidiaeth.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Tim Peppin