I Gymru, y Cronfeydd Strwythurol yw agwedd bwysicaf polisïau Cydlyniant a Rhanbarthol. Mae'r Cronfeydd Strwythurol, gyda arian cyfatebol, yn werth £3.5bn i ranbarth Cydgyfeirio Cymru (£1bn ar gyfer ERDF, £690 miliwn ar gyfer ESF), a £280 miliwn ar gyfer rhanbarth Cystadleurwydd Cymru (£60 miliwn ar gyfer ERDF, £50 miliwn ar gyfer ESF).
Mae'n hanfodol helpu i ddatblygu rhanbarthau i hwyluso trefn sefydlog yn yr Undeb Ewropeaidd. Y nod yw creu amgylchiadau mwy cystadleuol a rhagor o swyddi trwy helpu'r rhanbarthau tlotaf a'r rhai lle mae anawsterau strwythurol i adfywio eu heconomïau, hyrwyddo datblygu cynaladwy ac ymateb i newidiadau yn y farchnad lafur yn sgîl amgylchiadau cystadleuol ledled y byd.
Datblygiadau diweddaraf WLGA ar Bolisi Cydlyniant
Yn dilyn cyhoeddiad y cynigion ddeddfwriaethol drafft ar gyfer Polisi Cydlyniant yr UE 2014-2020 gan y Comisiwn Ewropeaidd yn mis Hydref 2011, mae'r drafodaeth ar ddyfodol Polisi Cydlyniant yr UE ar ôl 2013 yn datblygu'n gyflym ym Mrwsel. Mae Swyddfa Ewropeaidd WLGA yn rhan allweddol o'r trafodaethau ac yn cynrychioli anghenion a blaenoriaethau llywodraeth leol Cymru yn y trafodaethau pwysig hyn. Mae llywodraeth leol yn bartner allweddol mewn darparu Rhaglenni Cronfeydd Strwythurol yng Nghymru ac fe fydd yn lobïo i chwarae rhan allweddol wrth gynllunio a pharatoi y rhaglenni newydd wedi 2013.
Mae'r wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf i'w weld yn y dogfennau canlynol:
2012
2011
- Ymateb WLGA i'r Pumed Adroddiad ar Gydlyniad (Ionawr 2011)
- Diweddariad ar Raglenni'r UE 2014-2020 (Pwyllgor Cydlynu WLGA, Tachwedd 2011)
- Ymateb WLGA i Ymholiad Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gynigion ddeddfwriaethol drafft Cronfeydd Strwythurol yr UE 2014-2020 (Tachwedd 2011)
2009
- 'Safbwynt WLGA sydd yn dod i'r amlwg ar Ddyfodol Polisi Cydlyniad Ewropeaidd ar ôl 2013' (Pwyllgor Cydlynu WLGA, 29 Mai 2009)
- Cyflwyniad gan Cyng. Chris Holley, aelod WLGA ar Gomisiwn Polisi Cydlyniad Tiriogaethol (COTER) Pwyllgor y Rhanbarthau, mewn trafodaeth gyda Fabrizio Barca (Gweinyddiaeth dros Faterion Ariannol ac Economi yr Eidal ac awdur Adroddiad Barca), ar ran Cyngor Bwrdeistrefi a Rhanbarthau Ewropeaidd (CEMR) (Brwsel, 24 Medi 2009)
- Seminar Dyddiau Agored 2009 - nodiadau o 'Amgylchiadau arbennig Rhanbarthau Trawsnewidiol yn Ewrop a rôl phresennol polisi cydlyniad' (Brwsel, 6 Hydref 2009)
- Seminar Dyddiau Agored 2009 - nodiadau o 'Ymatebion polisi cydlyniad o bosib i Ranbarthau Trawsnewidiol yn Ewrop' (Brwsel, 6 Hydref 2009)
- 'Safbwynt WLGA sydd yn dod i'r amlwg ar Ddyfodol Polisi Cydlyniad Ewropeaidd ar ôl 2013, yn cynnwys y ddadl dros Gyllid Trawsnewidiol' (Pwyllgor Cydlynu WLGA, 23 Hydref 2009)
2008
Papur Gwyrdd ar Gydlyniad Tiriogaethol
Yn mis Hydref 2008 lawnsiodd Adran Polisi Rhanbarthol o'r Comisiwn Ewropeaidd y Papur Gwyrdd ar Gydlyniad Tiriogaethol. Yn ogystal â hyn lawnsiwyd ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn lledaenu'r drafodaeth ar gydlyniad tiriogaethol a rhoi y cyfle i hapddalwyr fedru ymateb i'r Papur Gwyrdd. Bwriad y drafodaeth yma yw i geisio cyrraedd gwell ddealltwriaeth o gydlyniad tiriogaethol a'i oblygiadau i bolisi. Yn dilyn ymgynghoriad manwl gyda hapddalwyr llywodraeth leol ar draws Cymru, ymatebodd WLGA i'r Papur Gwyrdd yn mis Chwefror 2009:
Ymateb Ymgynghoriad WLGA i'r Papur Gwyrdd ar Gydlyniad Tiriogaethol
Mae rhagor o wybodaeth gan: Iwan Williams


