Rydych chi yma: Hafan / Pynciau / Gwella a llywodraethu / Pobl
 

Pobl

Dywedir yn aml mai’r gweithlu yw prif ased y gwasanaethau cyhoeddus yn ogystal â’r adran sy’n costio fwyaf. Cynghorau yw cyflogwyr mwyaf y gymuned leol yn aml ac mae cyflawniad y sefydliad yn dibynnu llawn gymaint ar sut caiff y gweithlu eu harwain, eu datblygu, eu rheoli a’u hysgogi ag ydyw ar strwythurau, sustemau a phrosesau busnes.

Nid oes neb yn ‘gwybod y cyfan’ yn ei swydd ac mae angen i bob rheolwr, goruchwyliwr a gweithiwr ymroi i ddatblygiad personol parhaol er mwyn gwneud y cyfraniad gorau posibl i’r sefydliad a llwyddo yn eu gyrfaoedd personol. Os oes rhaid i sefydliadau wella’n barhaol – mae’r un peth yn wir am eu gweithlu. Mae’n hanfodol bod cynghorau’n ystyried eu hunain yn ‘sefydliadau dysgu’ sy’n buddsoddi yn natblygiad eu gweithlu, yn rhoi’r cyfle i weithwyr arloesi a herio’r dulliau gweithredu traddodiadol ac o blaid cyfnewid arferion ledled sefydliadau.

Dyma rai strategaethau ar gyfer datblygu pobl:-

  • strategaeth adnoddau dynol;
  • cynllun datblygu’r gweithlu;
  • strategaeth hyfforddi a datblygu;
  • strategaeth datblygu’r sefydliad;
  • archwilio medrau a dadansoddi anghenion hyfforddi;
  • rhaglenni datblygu personol;
  • datblygiad personol parhaol a gwerthuso.

Dyma rai dulliau ar gyfer datblygu medrau a gallu cudd:-

  • cymwysterau proffesyddol ffurfiol
  • rhaglenni medrau yn seiliedig ar allu
  • rhaglenni ac achlysuron ennill gwybodaeth
  • setiau dysgu gweithredol
  • hyfforddi personol a mentora
  • lleoli a bwrw tymor
  • datblygu medrau arwain a rhaglenni rheoli newidiadau
  • rhwydweithio â chynghorau a phartneriaid eraill
  • gweithio gyda chymheiriaid a dysgu ganddyn nhw

Mae cynghorwyr, sy’n gyflogwyr ac yn wleidyddion, angen cymorth hefyd i ddiwallu eu hanghenion datblygu. Mae dulliau datblygu aelodau yn cael sylw ar dudalen arall.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Daniel Hurford