Mae byd llywodraeth leol yn cyflawni rôl bwysig ynghylch llywodraethu Cymru yn ogystal â chomisiynu a chynnal amrywiaeth helaeth o wasanaethau rheng flaen. Felly, mae partneriaeth byd llywodraeth leol a Llywodraeth y Cynulliad yn un o brif nodweddion datganoli er 1999.
Mae’r bartneriaeth wedi’i hatgyfnerthu trwy lofnodi ‘Dealltwriaeth Newydd’ fis Tachwedd 2009. Mae’r ddogfen honno’n ychwanegu at y bartneriaeth statudol gafodd ei sefydlu trwy Ddeddf ‘Llywodraeth Cymru’ 1998 a’r ddeddf gymerodd ei lle yn 2006, sy’n rhoi llywodraeth leol wrth wraidd datganoli yng Nghymru. Cynllun partneriaeth statudol sy’n rheoli perthynas ffurfiol byd llywodraeth leol â Llywodraeth y Cynulliad, ac mae cynrychiolwyr y ddwy garfan yn cwrdd deirgwaith y flwyddyn trwy drefniadau statudol Cyngor y Bartneriaeth. Mae Arweinydd WLGA a/neu ei lefarwyr yn cwrdd â Gweinidogion Cymru yn rheolaidd i ddibenion gweithredol, hefyd.
