Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Carfan Cyflogaeth WLGA / Partneriaethau yn y sector cyhoeddus
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Partneriaethau yn y sector cyhoeddus

Pennodd Llywodraeth Cymru ei delfryd ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus yn 'Creu’r Cysylltiadau – Darparu Gwell Gwasanaethau i Gymru (2004)'. Dywedodd yn y ddogfen honno y byddai’n hanfodol i gyrff cyhoeddus gydweithio â’i gilydd o’u gwirfodd i wella ansawdd eu gwasanaethau a chwtogi ar gostau.

Mae ehangder a chyflymdra’r cydweithio ymhlith yr awdurdodau lleol wedi cynyddu ers hynny ac mae wedi’i sbarduno eto fyth o ganlyniad i gyhoeddi Adroddiad Simpson a ofynnodd i WLGA lunio cytundeb y byddai Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol yn ymrwymo iddo o ran sefydlu trefniadau cydweithio mewn meysydd penodol yn ôl yr amserlenni priodol.

Mae materion y gweithlu’n bwysig i gydweithio, a bydd yn hanfodol i bawb fynd i’r afael â nhw yn effeithiol. Mae Carfan Cyflogaeth WLGA wrthi’n hwyluso ymgynghori â’r undebau llafur am gydweithio ac yn helpu Llywodraeth Cymru i lunio dull cyson o drin a thrafod y pwnc yn y sector cyhoeddus.

Er na fydd modd arbed llawer o arian, o bosibl, trwy gydweithio ym maes adnoddau dynol, byddai arbedion maint mewn rhai meysydd yn helpu i wella’r gwasanaethau. Bydd gwasanaethau adnoddau dynol yr awdurdodau lleol yn hanfodol wrth drefnu’r newidiadau ar gyfer rhannu gwasanaethau, hefyd. Bydd Carfan Cyflogaeth WLGA yn helpu i lunio prosiectau cydweithio’r awdurdodau lleol ym maes adnoddau dynol ac yn ceisio gofalu eu bod nhw’n datblygu ac yn lledaenu’r arferion gorau ynglŷn â materion y gweithlu.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Jonathan Lloyd