Llywodraeth Leol â Llywodraeth Cymru
Mae byd llywodraeth leol yn cyflawni rôl bwysig ynghylch llywodraethu Cymru yn ogystal â chomisiynu a chynnal amrywiaeth helaeth o wasanaethau rheng flaen. Felly, mae partneriaeth byd llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru yn un o brif nodweddion datganoli er 1999.
Mae’r bartneriaeth wedi’i hatgyfnerthu trwy lofnodi ‘Dealltwriaeth Newydd’ fis Tachwedd 2009. Mae’r ddogfen honno’n ychwanegu at y bartneriaeth statudol gafodd ei sefydlu trwy Ddeddf ‘Llywodraeth Cymru’ 1998 a’r ddeddf gymerodd ei lle yn 2006, sy’n rhoi llywodraeth leol wrth wraidd datganoli yng Nghymru. Cynllun partneriaeth statudol sy’n rheoli perthynas ffurfiol byd llywodraeth leol â Llywodraeth Cymru, ac mae cynrychiolwyr y ddwy garfan yn cwrdd deirgwaith y flwyddyn trwy drefniadau statudol Cyngor y Bartneriaeth. Mae Arweinydd WLGA a/neu ei lefarwyr yn cwrdd â Gweinidogion Cymru yn rheolaidd i ddibenion gweithredol, hefyd.
Cyngor Partneriaeth Cymru
Diben Cyngor Partneriaeth Cymru yw hyrwyddo cydweithio a chydweithredu rhwng Llywodraeth y Cynulliad a llywodraeth leol. Mae adran 72 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sefydlu a chynnal corff a adwaenir fel Cyngor Partneriaeth Cymru. Caiff y cyrff canlynol eu cynrychioli:
- Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol;
- Cynghorau Cymuned a Thref;
- Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol;
- Awdurdodau'r Heddlu;
- Awdurdodau Tân ac Achub.
Mae'r Cyngor Partneriaeth yn cwrdd oddeutu 3 gwaith y flwyddyn. Cliciwch yma i weld y papurau.
Cynllun Partneriaeth Llywodraeth Leol: 2008
Mae Cynllun Partneriaeth Llywodraeth Leol yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ystyried buddiannau llywodraeth leol ym mhob agwedd ar ei gwaith. Wrth benderfynu beth y dylid ei gynnwys yn y cynllun, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw gyngor a roddwyd iddynt, ac unrhyw sylwadau a gyflwynwyd iddynt gan Gyngor Partneriaeth Cymru.
Cyd-Ddealltwriaeth Newydd: 2009
Mae’r ddogfen hon yn nodi cyd-ddealltwriaeth newydd rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru. Mae’r gyd-ddealltwriaeth hon yn seiliedig ar y canlynol, sy’n gyffredin i’r naill a’r llall:
- buddiant mewn cynnig gwasanaeth rhagorol i’r dinesydd;
- parch tuag at nodau gwleidyddol ac atebolrwydd ein sefydliadau priodol, a’r agweddau ymarferol ar ddatblygu polisi a chyflwyno gwasanaeth sy’n ein hwynebu; ac ymddiriedaeth yn ein hymrwymiad, ein capasiti a’n gallu i gyflawni er lles dinasyddion Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Lorraine D'Agnilli


