Rydych chi yma: Hafan / Pynciau / Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol / Hyfforddiant Cydraddoldeb / Hyfforddiant Cydraddoldeb: Ymchwil ac Adnoddau
 

Hyfforddiant Cydraddoldeb: Ymchwil ac Adnoddau

Partneriaeth Ymgysylltu ag Amrywioldeb

Prif nod prosiect Ymgysylltu ag Amrywioldeb oedd llunio, defnyddio a chloriannu dulliau arloesol o dynnu sylw at faterion amrywioldeb ymhlith nifer helaeth o bobl yn y gwaith.

Profodd y bartneriaeth ddatblygu ddau ddull o godi ymwybyddiaeth, meithrin amgyffred a newid agweddau. Y cyntaf oedd cyfres o fodiwlau e-ddysgu am faterion amrywioldeb a brofodd mewn sefydliadau mawr megis awdurdodau lleol, gan gynnal astudiaethau cymharol yr un pryd ymhlith cyrff gwladol, cwmnïau bychain/canolig eu maint ac amryw wirfoddolwyr. Yr ail oedd magu syniadau a lledaenu'r arferion gorau trwy hwyluso cyfathrebu electronig am hyrwyddo cyfleoedd cyfartal a herio anffafrio rhwng sawl math o gyrff. Mae angen digon o brofiad ac arbenigedd ym maes TG i ddefnyddio'r dull newydd yma o ddysgu ar hyd a lled sefydliad (Adroddiad CIPD am E-ddysgu, 2003).

Anfonwyd modiwlau at dros 4000 o bobl mewn 13 sefydliad ledled Cymru ac astudiwyd gwahanol ddulliau o'u defnyddio yn ôl medrau TG pob unigolyn a'r cyfrifiaduron oedd ar gael.

Mae'r bartneriaeth wedi paratoi adroddiadau ymchwil a thystiolaeth ynghylch defnyddio e-ddysgu i godi ymwybyddiaeth o faterion amrywioldeb mewn cyrff ac ynddyn nhw lawer o staff.

Swyddfa Gartref: Adolygiad o Hyfforddiant am Ymwybyddiaeth o Hiliaeth a Gwerthfawrogi Amrywiaeth Ddiwylliannol

Cyhoeddwyd yr adroddiad yma (gweler Dolenni Perthynol) yn sgîl adolygiad pwysig o effaith hyfforddiant am ymwybyddiaeth o hiliaeth a gwerthfawrogi amrywiaeth ddiwylliannol yn y sector cyhoeddus. Cyflawnwyd y gwaith ar ran y Swyddfa Gartref yn ymateb i'r Ymchwiliad am Farwolaeth Stephen Lawrence a gydnabu fod hiliaeth sefydliadol ac argymell bod angen adolygu hyfforddiant (Argymhelliad 54). Cydnabyddir bod hyfforddiant yn y maes yma'n ffordd bwysig o helpu sefydliadau i osgoi anffafrio eu gweithwyr a'u cwsmeriaid yn hiliol.

Cynhaliwyd yr adolygiad trylwyr o hyfforddiant dros ddwy flynedd a bu'n ymwneud â staff a sefydliadau ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus megis y GIG, byd llywodraeth wladol a lleol a charfannau o gyfundrefn y cyfiawnder troseddol. Holwyd 900 o sefydliadau, ymgynghorwyd â thros 40 o arbenigwyr materion tras, amrywioldeb a hyfforddiant ac archwiliwyd amrywiaeth helaeth o ddeunydd. Cyflawnwyd gwaith trylwyr gyda 14 corff sy'n astudio arferion da, gan gyfweld tua 250 o bobl tu mewn a thu allan i'r sefydliadau (e.e. staff adnoddau dynol, cymdeithasau staff, undebau llafur, arbenigwyr materion tras a chydraddoldeb, staff gweithredol a chynrychiolwyr cymunedau) ac anfon holiadur at 700 o bobl eraill. Casglodd yr adolygiad amrywiaeth o wybodaeth ansoddol a meintiol er mwyn astudio pa mor dda ac effeithiol oedd yr hyfforddiant, nodi bylchau yn y ddarpariaeth a'r arferion ac ystyried sut gallai'r sefydliadau gynnal hyfforddiant yn y gwaith.

Mae canfyddiadau'r astudiaeth ar ran y Swyddfa Gartref wedi'u rhoi ynghyd yn yr adroddiad manwl yma. At hynny, mae llawlyfr am arferion da sy'n rhoi argymhellion am arferion effeithiol a chanllawiau am eu gwella a'u cryfhau. Bydd y llawlyfr yn helpu sefydliadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol sydd wrthi'n llunio ac yn cynnal hyfforddiant newydd neu'n cryfhau eu cyrsiau cyfredol.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Anna Morgan