Rydych chi yma: Hafan / Pynciau / Adfywio a'r amgylchedd / Parciau cenedlaethol
 

Parciau cenedlaethol

Mae'r tri pharc cenedlaethol yn cwmpasu dros 20% o dir Cymru ac maen nhw'n hollbwysig i fudd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd y genedl. Mae'r parciau - Bannau Brycheiniog, Arfordir Sir Benfro ac Eryri - yn enghreifftiau o bwys rhyngwladol ynglŷn â diogelu tirweddau. Mae'r syniad o ddiogelu tirwedd - ardal wedi'i diogelu mae pobl yn byw ac yn gweithio ynddi - yn fwyfwy pwysig ym maes gwarchodaeth.

Mae'r parciau'n 'genedlaethol' achos eu bod o werth arbennig i'r genedl gyfan. Mae awdurdod pob parc cenedlaethol yn gorff annibynnol sy'n gweithredu yn rhan o fframwaith llywodraeth leol. Mae ym mhob awdurdod aelodau sydd wedi'u penodi gan y Cynulliad a chynghorwyr lleol sy'n cynrychioli'r awdurdodau mae rhan o'u bröydd tu mewn i'r parc.

Mae dau ddiben i'r parciau cenedlaethol:

  • diogelu a gwella prydferthwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal;
  • hyrwyddo cyfleoedd i'r cyhoedd ddeall a mwynhau nodweddion arbennig yr ardal.

Mae awdurdodau'r parciau cenedlaethol yn cael gwneud unrhyw beth a allai helpu i gyflawni'r dibenion hynny yn eu barn nhw. Mae dyletswydd ar awdurdodau'r parciau cenedlaethol hefyd i feithrin ffyniant economaidd a chymdeithasol y cymunedau sydd yn yr ardal, ond rhaid gwneud hynny heb wario gormod o arian ychwanegol. Mae dyletswydd gyffredinol ar unrhyw 'awdurdod perthnasol', hefyd, megis y Cynulliad a'r cyrff mae'n eu noddi, i roi pob ystyriaeth i ddibenion y parciau cenedlaethol.

Awdurdod y parc cenedlaethol yw'r unig awdurdod cynllunio lleol o fewn ffiniau'r parc, ac mae gofyn iddo baratoi cynllun datblygu a chynllun rheoli sy'n amlinellu'r amcanion a'r polisïau strategol ar gyfer rheoli'r parc. Dylai pob corff sy'n ymwneud â'r parc roi ystyriaeth briodol i'r cynlluniau hynny, ac fe ddylai fod cysylltiad cryf rhyngddyn nhw a'r strategaethau cymunedol.

Diogelu a gwella prydferthwch naturiol

Y tyb arferol ynglŷn â pharciau cenedlaethol yw eu bod nhw'n ymwneud â gwarchodaeth a'r amgylchedd. Dyma un o'u prif gyfrifoldebau, ac mae gyda nhw brofiad ac arbenigedd helaeth yn y maes hwnnw. Perchnogion preifat piau'r rhan fwyaf o dir yn y parciau cenedlaethol. Felly, rhaid i awdurdodau'r parciau cenedlaethol annog y perchnogion a'r preswylwyr, yn arbennig ffermwyr, i gydweithio er mwyn cadw a gwella'r prydferthwch naturiol. Her bwysig i'r parciau yw adfywio'r economi gwledig mewn modd sy'n gwella'r amgylchedd ac yn rhoi hwb ariannol i'w cymunedau fel ei gilydd.

Mae yn y parciau cenedlaethol rai cynefinoedd a rhywogaethau pwysig iawn. Un o ddibenion penodol pennu ardal yn barc cenedlaethol yw diogelu bywyd gwyllt, ac mae pwysigrwydd hynny wedi'i atgyfnerthu trwy Gynllun Gweithredu'r DG ar gyfer Bioamrywiaeth. Mae'n bwysig i'r parciau gydweithio'n agos â Chyngor Cefn Gwlad Cymru i gyflawni amcanion gwarchodaeth natur. Mae'r parciau'n ymwneud â diogelu adeiladau hefyd, gan gynnig cyngor technegol a chymorth ariannol i berchnogion hen adeiladau er mwyn eu diogelu a'u hadnewyddu, nodi ardaloedd cadwraeth a rhoi cynlluniau gwella ar waith. Mae awdurdodau'r parciau cenedlaethol yn rhoi sylw cynyddol i rannau llai amlwg o'n treftadaeth bellach - cof y werin, straeon llafar, achlysuron traddodiadol ac ieithoedd.

Hyrwyddo mwynhad ac amgyffred

Mae amcangyfrif bod 15 miliwn o bobl yn ymweld â thri pharc cenedlaethol Cymru bob blwyddyn. Mae twristiaeth a hamdden yn bwysig i'r economi lleol ac yn cyfrannu at sefydlogrwydd cymdeithasol cymunedau cyfoes cefn gwlad. Mae'r parciau cenedlaethol yn gyfrifol am helpu pobl i fwynhau ac amgyffred nodweddion arbennig y parc. Maen nhw'n gwneud hynny trwy ganolfannau i ymwelwyr, taflenni a llyfrau, rheoli safleoedd a chynnal dros 5,000 km o hawliau tramwy. Mae gwardeiniaid amser llawn ym mhob un o'r tri pharc.

Mae tua 90% o'r 15 miliwn o ymwelwyr yn dod yn eu ceir, ac mae hynny'n her bwysig ynghylch ymdopi â nifer y cerbydau a diogelu'r amgylchedd fel ei gilydd. Mae'r parciau wedi bod ar flaen y gad ynglŷn â helpu i ddatblygu a hyrwyddo cludiant cyhoeddus cyfun sy'n hwyluso newid yn arferion yr ymwelwyr ac yn rhoi gwell gwasanaethau a hwb ariannol i drigolion yr ardal.

Lles economaidd-gymdeithasol y cymunedau lleol

Mae dyletswydd ar y parciau cenedlaethol i feithrin lles economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol mewn modd sy'n cyd-fynd â dibenion y parciau. Wrth gyflawni'r ddyletswydd honno, rhaid i'r parciau ystyried sut gall fynd i'r afael â materion megis tai fforddiadwy, cyfleoedd gwaith amryfal a darparu gwasanaethau lleol. Dim ond trwy gydweithio'n agos â'r awdurdodau lleol a chyrff gwladol eraill gall y parciau wneud hynny.

Dylai gweithgareddau awdurdod parc cenedlaethol gyd-fynd â rhai'r gymuned leol. Mae awdurdod parc cenedlaethol yn gweithio'n effeithiol pan fo'n llwyddo i gyfuno dulliau gwarchod natur â'r ddyletswydd i hyrwyddo amgyffred a mwynhad mewn modd sydd o les i'r trigolion.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Tim Peppin