Mae Fframwaith y Gwasanaethau Gwladol yn pennu safon y gwasanaethau mae hawl gan blant, pobl ifainc a'u teuluoedd eu disgwyl a'u derbyn yng Nghymru. Mae plant, rhieni a chynhalwyr wedi helpu i lunio'r fframwaith.
Dechreuodd gwaith llunio'r fframwaith i blant fis Medi 2002, a'r nod oedd cynnig gwasanaethau gwell trwy bennu safonau gwladol. Cyrff iechyd a gofal cymdeithasol luniodd y fframwaith ar y cyd, gan ymgynghori â meysydd tai, addysg a hamdden, mudiadau gwirfoddol a phobl briodol eraill megis rhieni, cynhalwyr, plant a phobl ifainc.
Prif nod y fframwaith yw gofalu bod iechyd a lles plant a phobl ifainc cystal ag y bo modd a'u bod yn cael pob cymorth i gyflawni eu llawn dwf. Mae'r fframwaith yn ymwneud â'r plant a'r bobl ifainc i gyd mae GIG Cymru a gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdodau lleol yn gyfrifol amdanyn nhw o'u geni hyd eu pen-blwydd yn 18 oed. Rhoddir ystyriaeth arbennig i drefniadau pontio rhwng y fframwaith a'r gwasanaethau i oedolion ar ôl i'r rhai mae angen gwasanaethau cymorth arnyn nhw droi'n 18 oed.
Mae yn y fframwaith 21 safon a 203 o gamau allweddol, wedi'u seilio ar 42 Cymal Cytundeb y Cenhedloedd Unedig am Hawliau Plant a saith nod craidd y Cynulliad ar gyfer plant a phobl ifainc.
Yn rhan o drefn rheoli perfformiad y fframwaith, mae dull hunanasesu wedi'i lunio ar gyfer pob corff statudol sy'n rhoi gwasanaethau i blant a phobl ifainc, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â mamolaeth.


