Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Yr amgylchedd ac Adfywio / Fframwaith Datblygu Cynaladwy / Nodi ôl troed ecolegol a bioamrywiaeth
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Nodi ôl troed ecolegol a bioamrywiaeth

Bioamrywiaeth

Does dim modiwl penodol am fioamrywiaeth yn Fframwaith Datblygu Cynaladwy Cymru achos bod llawer o ddeunydd ar gael yn barod trwy Bartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru. Mae gwybodaeth am y deddfau a’r canllawiau sy’n berthnasol i awdurdodau lleol ym maes bioamrywiaeth ar wefan y bartneriaeth yma.

Ôl troed ecolegol

Hanfod ôl troed ecolegol yw mesur yn fras lle mae pobl yn defnyddio adnoddau tu hwnt i feini prawf amgylcheddol. Trwy fesur hynny, gallwn ni bennu faint o bwysau dynol sydd ar y blaned a llunio negeseuon megis: Pe bai ffordd o fyw pawb yn y byd yr un fath â’r Cymry ar gyfartaledd, byddai angen bron i ddwy blaned a hanner i ymdopi â’r galw am adnoddau. Mae amryw ddulliau y gall gwledydd, rhanbarthau, awdurdodau lleol, sefydliadau ac unigolion eu defnyddio i fesur ôl troed ecolegol ac awgrymu newidiadau priodol yn eu polisïau a’u hymddygiad.

Fis Chwefror 2010, trefnodd WLGA seminar i hysbysu byd llywodraeth leol am ffyrdd o fesur ôl troed ecolegol a lledaenu’r arferion gorau presennol. Cewch chi weld fideo o’r seminar hwnnw yma (cyn bo hir):

Yn ystod y seminar, fe roes cynrychiolwyr awdurdodau lleol ddau gyflwyniad am ledaenu’r arferion gorau (isod).

Mae rhagor o wybodaeth gan: Tim Peppin