Nod cyffredinol Swyddfa Ewropeaidd WLGA yw:
'ychwanegu at waith byd llywodraeth leol Cymru ynghylch materion Ewropeaidd a hyrwyddo'i fuddiannau yn Ewrop a gweddill y byd'.
Mae'r Swyddfa'n rhoi gwybodaeth am waith a pholisïau sefydliadau yr Undeb Ewropeaidd i awdurdodau lleol Cymru. Ar ben hynny, mae'r Swyddfa Ewropeaidd ar flaen y gad ynghylch meithrin cysylltiadau rhwng awdurdodau lleol Cymru a sefydliadau'r UE, gan hwyluso cysylltiadau a chyfathrebu am anghenion byd llywodraeth leol trwy ymateb i bolisïau hoelion wyth yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r Swyddfa'n cymryd rhan bwysig ynglyn â helpu awdurdodau lleol i sefydlu partneriaethau trawswladol, hefyd.
Dyma amcanion y Swyddfa:
- helpu byd llywodraeth leol Cymru i fanteisio ar yr hyn mae'r Undeb Ewropeaidd yn ei gynnig;
- helpu'r awdurdodau lleol i ymgysylltu'n fwy â sefydliadau yr Undeb Ewropeaidd;
- hybu delwedd byd llywodraeth leol Cymru yn Ewrop a delwedd Ewrop yng Nghymru;
- cydlynu a hyrwyddo amryw flaenoriaethau er mwyn gwneud y gorau o ymdrechion dylanwadu WLGA;
- rhwydweithio yn Ewrop ar ran yr awdurdodau lleol;ychwanegu at wasanaethau corfforaethol WLGA.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Iwan Williams


