Rydych chi yma: Hafan / Canolfan y Cyfryngau / Newyddion / Ymgyrch dros garchardy yn y gogledd
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Ymgyrch dros garchardy yn y gogledd

17 Chwefror 2010

Yn ystod cyfarfod diwethaf Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol y Gogledd, cytunodd arweinyddion chwe chyngor y gogledd – Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam – i ymgyrchu'n gryf dros garchardy newydd ac ynddo 1500 o leoedd ar gyfer siroedd y gogledd a rhannau o ogledd-orllewin Lloegr.

Mae cynghorau'r gogledd wedi cynnig nifer o safleoedd y gallai'r Gwasanaeth Gwladol dros Reoli Troseddwyr (NOMS) eu hystyried yn y rhanbarth.

Meddai'r Cynghorydd Aled Roberts, Cadeirydd Bwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol:

“Byddai carchar newydd yn y gogledd o les i'n cymunedau ni. Yn ôl y drefn bresennol, mae tua 800 o droseddwyr yn gorfod mynd i garchardai tu allan i'r rhanbarth. Yn ogystal â diwallu'r anghenion lleol, byddai carchar newydd yn cynnig swyddi hirdymor i'n cymunedau ni, hefyd.”

“Rydyn ni'n disgwyl i'r Gwasanaeth Gwladol dros Reoli Troseddwyr roi o leiaf un safle yn y gogledd ar ei restr fer. Wedi hynny, bydd y chwe chyngor yn cychwyn ymgyrch ar y cyd.”

“Roedd arweinyddion y chwe chyngor o blaid y penderfyniad gwreiddiol i godi carchardy llai yng Nghaernarfon, a chawson nhw eu siomi pan ddaeth i'r amlwg na fyddai'r prosiect yn mynd rhagddo, am y byddai wedi arwain at gryn dipyn o fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys swyddi newydd. Bellach, byddwn ni'n cydweithio'n agos â Phrif Gwnstabl y Gogledd, hoelion wyth Fforwm Economaidd y Gogledd, Gwasanaeth y Llysoedd, y Gwasanaeth Gwladol dros Reoli Troseddwyr a'r barnwyr, fodd bynnag, i hwyluso'r buddsoddiad hwnnw.”


Meddai Mark Polin, Prif Gwnstabl Heddlu'r Gogledd:

“Mae awdurdodau lleol y gogledd a Fforwm Economaidd y Gogledd wedi gofyn imi ymuno â'u hymgyrch dros godi carchardy yn y gogledd ac mae'n dda gen i wneud hynny. Mae llawer o safleoedd da yn y gogledd ac mae rhaid codi carchardy yma i ddiwallu'r anghenion lleol. Dyma'r unig ranbarth o bwys yn y DG sydd heb garchar ynddo. Mae'n hen bryd iddyn nhw fuddsoddi yn y gogledd.”

DIWEDD

Mae rhagor o wybodaeth gan:

Lucy Sweet: 029 2046 8678 neu lucy.sweet@wlga.gov.uk

Nodiadau i olygyddion

Mae arweinyddion cynghorau'r gogledd o blaid codi carchar yn y rhanbarth er mwyn:
• Diwallu anghenion yr 800 o garcharorion a throseddwyr ifanc o'r gogledd sydd mewn carchardai tu allan i'r rhanbarth ar hyn o bryd, a chynnig gwasanaethau Cymraeg.
• Gwella effeithlonrwydd llysoedd y gogledd.
• Cwtogi ar nifer y rhai sy'n troseddu eto trwy ddod â charcharorion yn nes at eu teuluoedd a chyfleusterau ailsefydlu megis y gwasanaethau prawf a chymdeithasol.
• Gostwng costau'r gwasanaethau hynny ynglŷn â rhoi cymorth i garcharorion.
• Cwtogi ar y teithio a'r costau o ran cludo carcharorion rhwng y llys a'r carchar.

Bydd carchardy yn y gogledd yn arwain at swyddi parhaol mae eu gwir eisiau yn yr economi lleol a rhanbarthol – yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol fel ei gilydd – yn ogystal â sgîl fanteision i'r GIG a sefydliadau addysg lleol a rhanbarthol.

Mae Fforwm Economaidd y Gogledd a'r Bwrdd Lleol dros Gyfiawnder Troseddol yn cefnogi'r ymgyrch dros godi carchardy yn y gogledd. Mae chwe chyngor y gogledd wedi nodi cynifer o safleoedd ag y bu modd i wneud yn fawr o obeithion y rhanbarth. Mae hynny'n dangos eu bod wedi ymrwymo'n gryf i'r syniad o agor carchardy yn y gogledd.

Mae Prif Gwnstabl Heddlu'r Gogledd wedi cytuno i arwain yr ymgyrch yn gyhoeddus.

Mae Adran Cyfiawnder San Steffan yn chwilio am safleoedd i godi carchardy ac ynddo 1500 o leoedd ar gyfer y gogledd a rhannau o ogledd-orllewin Lloegr. Mae wedi penodi asiantau i asesu'r safleoedd mae awdurdodau lleol a pherchnogion tir wedi'u cynnig. Mae bwriad i asesu'r safleoedd hynny erbyn diwedd mis Chwefror, tynnu rhestr fer erbyn mis Ebrill a chyhoeddi'r penderfyniad ddechrau'r haf.

Mae adborth anffurfiol yn awgrymu y byddan nhw'n ystyried safleoedd yn y gogledd o ddifrif.

Camau arfaethedig
• Hoffai cynrychiolwyr Bwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol gwrdd â'r gweinidog perthnasol yn Adran Cyfiawnder San Steffan (Maria Eagle AS) fis Mawrth i hyrwyddo unrhyw safleoedd yn y gogledd sydd ar y rhestr fer.
• Hoffai'r Bwrdd gwrdd â Gweinidog Llywodraeth y Cynulliad dros Faterion Llywodraeth Leol a Chyfiawnder Cymdeithasol i ofyn am gefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad dros ddewis safle yn y gogledd.
Mae'r Bwrdd wrthi'n ystyried camau ychwanegol i ennill cefnogaeth y rhai sy'n cynrychioli etholaethau'r rhanbarth ym Mae Caerdydd a San Steffan.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Mari Thomas



< yn ôl