Ymdrech cynghorau i gynyddu eu trethi cyn lleied ag y bo modd yn 2012-13
18 Hydref 2011
Yn sgîl cyhoeddi'r dyraniad arfaethedig i fyd llywodraeth leol heddiw, mae'r cynghorau'n dod i delerau â'r ffaith y bydd llai o gyllid a chyfalaf ar gael iddyn nhw y flwyddyn nesaf. Mae WLGA yn croesawu'r modd mae'r Gweinidog wedi diogelu cyllidebau ar gyfer addysg a gwasanaethau cymdeithasol i ryw raddau a blaenoriaethu gwasanaethau rheng flaen. Does dim dwywaith, fodd bynnag, y bydd yn anodd i'r cynghorau gael dau ben llinyn ynghyd y flwyddyn nesaf am fod mwy a mwy o bwysau ar wasanaethau, gwir angen cynnal a chadw eu hasedion cyfredol a chwyddiant rhemp.
Mae WLGA wedi clywed i Lywodraeth Cymru benderfynu peidio â rhoi'r grant oedd ar gael o du San Steffan i'r cynghorau lleol eleni fel na fyddai rhaid iddyn nhw gynyddu eu trethi. Yn lle hynny, penderfynodd gymryd camau i gynnal swyddi a'r economi ehangach. Mae'r cynghorau'n effro i'r pwysau enfawr ar gyllideb pob cartref, fodd bynnag, a byddan nhw'n gweithredu gan bwyll yn y sefyllfa economaidd anodd sydd ohoni. Felly, er y bydd peth cynnydd yn nhreth pob cyngor y flwyddyn nesaf, mae WLGA yn darogan mai'r cynnydd lleiaf ers 10 mlynedd a welwn ni yn 2012-13.
Meddai'r Cyng. John Davies (Sir Benfro), Arweinydd WLGA:
“O ran treth y cynghorau, mae'r awdurdodau'n effro i'r ffaith bod pobl yn ein cymunedau'n wynebu talcen caled wrth geisio cael dau ben llinyn ynghyd bob dydd. Er nad oes grant yng Nghymru i osgoi cynyddu'r dreth, bydd cynghorau'n gwneud eu gorau glas i gwtogi ar gostau ac arbed arian, yr un fath â'r llynedd pan welon ni'r cynnydd lleiaf yn y dreth ers ad-drefnu byd llywodraeth leol ym 1996.
Mae'n anochel y bydd pobl yn dweud na fydd treth cynghorau Lloegr yn cynyddu ond rhaid cofio hefyd fod pobl ym Mand D yng Nghymru yn talu tua 25% yn llai na'u cyfatebion yn Lloegr, ar gyfartaledd”.
Meddai'r Cyng. Rodney Berman (Caerdydd), Llefarydd WLGA dros Faterion Ariannol:
“Bydd y dyraniad arfaethedig yn cynyddu cyllid y cynghorau o 0.2% yn 2012-13 ar gyfartaledd ond, mewn gwirionedd, bydd yn gostwng o 4.3% os ystyriwch chi gyfradd y chwyddiant ar hyn o bryd. Fe fydd cyfalaf i'r cynghorau'n gostwng o 7.4% y flwyddyn nesaf ac o 11.5% eto yn 2013-14. Mae'r gostwng parhaus yn y cyfalaf yn achosi llawer o bryder ymhlith y cynghorau gan fod gwir angen iddyn nhw fuddsoddi mewn asedion megis adeiladau'r ysgolion a'r ffyrdd lleol.”
Mae holl fanylion dyraniad arfaethedig Llywodraeth Cymru i fyd llywodraeth leol ar gyfer 2011-12 ar:
http://wales.gov.uk/topics/localgovernment/finandfunding/settlement/lgsettlement101123/provsettlement1112/?lang=en
Diwedd
Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet, Swyddog Cyfathrebu WLGA – 029 2046 8673 neu lucy.sweet@wlga.gov.uk
Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet


