Rydych chi yma: Hafan / Canolfan y Cyfryngau / Newyddion / Ymateb WLGA i ddatganiad y Gweinidog dros Addysg am Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Ymateb WLGA i ddatganiad y Gweinidog dros Addysg am Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif

14 Gorffennaf 2011

Gan ymateb i ddatganiad y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau am Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a'r gwariant cyfalaf ar gyfer 2011-2014, meddai'r Cyng. Peter Fox (Sir Fynwy), Llefarydd WLGA dros Ddysgu Gydol Oes a Medrau:

“Mae'r newyddion heddiw am dynged Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn adlewyrchu'r ffaith nad oes llawer o gyfalaf ar gael i Gymru o ganlyniad i'r Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant yn San Steffan. Er y bydd hynny'n siomedig iawn i'r awdurdodau lleol, mae'n hanfodol parhau i weithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru ynglŷn ag isadeiledd addysg. Rhaid ailbennu'r blaenoriaethau o achos y sefyllfa ariannol sydd ohoni ac mae angen cydweithio'n agos i ystyried pob ffynhonnell arian fydd ar gael i ddiweddaru adeiladau'r ysgolion a gofalu bod gwasanaethau yn y lleoedd priodol ar gyfer y dyfodol.

Mae canlyniadau'r arolwg gynhaliodd yr awdurdodau lleol yn dweud bod dros 50% o adeiladau'r ysgolion mewn cyflwr da neu resymol. Mae'r awdurdodau lleol wedi gweithio'n ddyfal yn ddiweddar i baratoi rhaglenni amlinellol strategol sy'n dangos faint o adeiladau newydd ac atgyweiriadau y bydd eu hangen i ofalu bod ysgolion Cymru mewn cyflwr da. Ar hyn o bryd, ychydig iawn o arian sydd ar gael i ddatrys y broblem. Mae'r awdurdodau lleol wedi cydweithio'n agos â Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'r rhaglen hon sydd wedi pennu y bydd angen buddsoddi tua £5 biliwn dros y 12 mlynedd nesaf. Ar hyn o bryd, dim ond y prosiectau mae arian wedi'i neilltuo ar eu cyfer yn barod fydd yn mynd yn eu blaen dros y cyfnod nesaf. £415 miliwn yw gwerth y prosiectau hynny.

Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi ond 50% o'r cyfalaf yn achosi pryder mawr ymhlith y cynghorau lleol achos eu bod yn wynebu talcen caled o ran cyfalaf a chyllid fel ei gilydd. Rydyn ni'n croesawu cyhoeddiad y Gweinidog y gallai fod ffrwd gyllid yn y dyfodol i helpu partneriaethau sy'n cael eu hariannu trwy gyllid, a bydd hynny'n hanfodol i lwyddiant Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Mae pawb sy'n ymwneud â Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn effro i'n cyfrifoldebau ni am wella cyrhaeddiad a deilliannau addysgol er lles disgyblion Cymru a gofalu ein bod yn defnyddio adnoddau mewn modd cost-effeithiol i gynnig addysg ragorol.”

Diwedd

Mae rhagor o wybodaeth gan:



< yn ôl