Ymateb WLGA i Adroddiad Blynyddol Estyn
31 Ionawr 2012
Meddai llefarydd ar ran WLGA:
“Mae adroddiad blynyddol Estyn yn dangos bod trefn addysg Cymru yn tangyflawni er bod peth gwella a lle i fod yn obeithiol. Mae llwyddiannau yn y drefn ond mae digon o wendidau, hefyd. Mae adroddiad blynyddol Estyn yn ddogfen bwysig a bydd WLGA a byd llywodraeth leol yn ystyried sylwadau'r prif arolygydd yn ofalus ac yn mynd i'r afael â'r pryderon ar y cyd. Mae 22 arweinydd byd llywodraeth leol wedi dweud mai addysg yw'r brif flaenoriaeth a'u bod am wella'r safonau a'r deilliannau. Maen nhw am wella safonau llythrennedd a rhifedd hefyd, yn ogystal â chydweithio â Llywodraeth Cymru ynglŷn ag '20 cam' y Gweinidog.
Mae Estyn wedi canmol y gwaith mae byd llywodraeth leol yn ei wneud trwy'r consortia addysg ac yn obeithiol o ran y bwriad i sefydlu 4 gwasanaeth cyfun ar gyfer gwella ysgolion erbyn mis Medi eleni. Bydd y ffordd drawsffurfiol hon o wella ysgolion – gan ddefnyddio arweinyddion sustemau, cymunedau dysgu proffesiynol a'r arferion gorau trwy'r gyfundrefn – yn canolbwyntio ar wella'r safonau ym mhob un o ysgolion Cymru. Mae'r awdurdodau lleol yn llunio menter o'r enw 'Dysgu trwy'r Gorau' hefyd, i fanteisio ar yr arferion da sydd yn ysgolion Cymru eisoes a'r rhai mae Estyn wedi tynnu sylw atyn nhw. Mae cymorth sylweddol ar gael i'r ysgolion yn barod a bydd newid mawr er gwell ynglŷn â hynny o ganlyniad i ddatblygu'r consortia addysg ymhellach.”
Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet


