Rydych chi yma: Hafan / Canolfan y Cyfryngau / Newyddion / Y cynghorau a’r undebau llafur yn cytuno ar brif egwyddorion cydweithio
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Y cynghorau a’r undebau llafur yn cytuno ar brif egwyddorion cydweithio

22 Gorffennaf 2011

Mae Pwyllgor Ymgynghori ag Undebau Llafur y De-orllewin, fforwm sy’n galluogi cynghorau ac undebau llafur y rhanbarth i gyfathrebu â’i gilydd, wedi cytuno ar set o egwyddorion ynglŷn â chydweithio ymhlith cynghorau’r rhanbarth. Dyma’r cytundeb cyntaf o’i fath yng Nghymru.

Gan gydnabod bod angen cyflymu cynnydd y cydweithio ymhlith cynghorau, a bod angen i’r undebau llafur fod yn rhan o hynny, mae’r pwyllgor wedi cytuno ar wyth egwyddor fydd yn gofalu bod modd i’r undebau llafur gymryd rhan mewn prosiectau cydweithio rhanbarthol. Mae’r egwyddorion hynny wedi’u rhestru yn y nodiadau isod.

Meddai’r Cyng. Ali Thomas (Castell-nedd Port Talbot), cadeirydd y pwyllgor:

“Mae’r pwyllgor yn cwrdd yn rheolaidd er 2008 er mwyn ymgynghori â chynrychiolwyr undebau llafur y de-orllewin am brosiectau a gwasanaethau sydd i’w cynnal ar y cyd.

Mae cydnabyddiaeth bod rhaid inni fwrw ymlaen â’r cydweithio ar y cyd â’r undebau llafur a bod modd i’r undebau gyfrannu syniadau o ran cydweithio achos bod syniadau sy’n tarddu o blith staff y rheng flaen yn debygol o lwyddo.”

Meddai Glyn Jones, Unsain:

“Mae’n dda gyda’r undebau llafur sy’n ymwneud â chynghorau’r de-orllewin weithio ar y cyd â’r cynghorau i hwyluso ansawdd a gwerth arian yn y gwasanaethau cyhoeddus maen nhw’n eu cynnig. Mae’r egwyddorion yma’n gosod sylfaen ar gyfer ymgysylltu’n barhaus i ofalu y bydd unrhyw newidiadau yn y gwasanaethau’n arwain at y canlyniad priodol i’r bobl sy’n eu defnyddio a’r gweithwyr sy’n eu cynnal.”

Diwedd

Nodiadau i olygyddion

Set o brif egwyddorion

Mae’r pwyllgor ymgynghori’n cydnabod y bydd rhaid asesu effaith unrhyw gynigion ar gydraddoldeb.

1. Mae’r cynghorau’n ymrwymo i barhau i gynnig eu gwasanaethau eu hunain lle bo’n amlwg y byddai hynny’n well o ran ansawdd a gwerth arian. Bydd pob gwasanaeth o’r fath yn cael cyfle priodol i gyflwyno dadl o blaid ei barhau.


2. Ystyr ‘eu gwasanaethau eu hunain’ yw gwasanaethau mae cyngor unigol yn eu cynnig ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chyngor arall/cynghorau eraill.


3. Mae cydnabyddiaeth bod angen i’r cynghorau brofi a yw gwasanaethau’n rhoi’r gwerth gorau. Dylai’r undebau llafur gymryd rhan yn y profi ac mae pawb sy’n ymwneud â’r cytundeb hwn yn cydnabod bod proses diogelu ansawdd yn defnyddio arferion gorau’r wlad a safonau sefydliadau megis APSE yn hytrach nag asesu gwerth mewn modd bras yn ôl meini prawf y farchnad.


4. Mae cydnabyddiaeth hefyd y gallai penderfyniadau i gwtogi ar wasanaethau mewn cynghorau unigol dynnu sylw at bwysigrwydd profi gwerth ac ystyried cydweithio.


5. Lle mae pryderon ar ôl profi o’r fath, dylai cynghorau ystyried cydweithio â’i gilydd gyntaf cyn edrych ar ffyrdd eraill o gynnig gwasanaethau.


6. Lle mae cydweithio’n cael ei ystyried, bydd undebau llafur yn y cynghorau perthnasol yn cael eu cynnwys yn y broses.


7. Mae’n bosibl y bydd cydweithio ymhlith cynghorau’n cael ei brofi hefyd i weld a yw’n ffordd briodol o gynnig gwasanaethau lleol.


8. Dylai’r undebau llafur gael eu cynnwys cyn gynted ag y bo modd pan fo bwriad i ystyried ffyrdd newydd o gynnig gwasanaethau.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet



< yn ôl