‘Cydweithio'n rhanbarthol, cyflawni'n lleol’ – neges Partneriaeth Ddysgu Ranbarthol y De-orllewin
17 Mawrth 2010
Bydd Partneriaeth Ddysgu Ranbarthol y De-orllewin yn cynnal seminar o'r enw 'Cydweithio'n Rhanbarthol, Cyflawni'n Lleol' ym Mharc y Scarlets, Llanelli, ddydd Llun 22ain Mawrth i dynnu sylw at gyfleoedd i gydweithio yn y rhanbarth. Leighton Andrews, y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, fydd yn agor yr achlysur.
Meddai Karl Napieralla OBE, Cyfarwyddwr Addysg, Dysgu Gydol Oes a Hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, a fydd yn siarad yno hefyd:
“Bydd y seminar yma, y cyntaf o'i fath, yn dod â phobl o gyrff cyhoeddus, mudiadau gwirfoddol, sefydliadau addysg uwch/bellach, Gyrfaoedd Gorllewin Cymru a Chanolfan Byd Gwaith at ei gilydd. Y nod yw tynnu sylw at drefniadau cydweithio presennol a'r cyfleoedd allai godi i ychwanegu atyn nhw.
Gorchwyl Partneriaeth Ddysgu Ranbarthol y De-orllewin yw gofalu bod sefydliadau addysg cyhoeddus a chyrff perthnasol yn cydweithio'n effeithlon i wella gwasanaethau cyhoeddus y rhanbarth a diwallu anghenion y rhai sy'n dysgu yma. Bydd y seminar yma'n rhoi cyfle i ddangos rôl bwysig ac amlochrog y bartneriaeth ynglŷn â hwyluso gweithgareddau dysgu a meithrin medrau.”
Meddai Dave Gilbert, Cyfarwyddwr Adfywio a Hamdden Cyngor Sir Gâr:
“Trwy ddod â phobl o bob cwr o'r rhanbarth at ei gilydd, bydd y seminar hwn yn dangos eto fod eisiau inni weithio ar y cyd i ddatrys problemau economaidd y de-orllewin.”
Un o nodau'r seminar yw annog arbenigwyr addysg ac adfywio i gydweithio. Felly, bydd cyflwyniadau am faterion sy'n hollbwysig i'r ddau faes. Bydd cyfle i'r gynulleidfa gymryd rhan mewn amryw weithdai am y pynciau hyn, hefyd.
Diwedd
Nodiadau i olygyddion
Partneriaeth Ddysgu Ranbarthol y De-orllewin
Gorchwyl Partneriaeth Ddysgu Ranbarthol y De-orllewin yw gofalu bod sefydliadau addysg cyhoeddus a chyrff perthnasol yn cydweithio'n effeithlon i ddiwallu anghenion dysgwyr, economi a chymdeithas y rhanbarth.
Mae rhagor o wybodaeth gan:
Lucy Sweet: 029 2046 8678 neu lucy.sweet@wlga.gov.uk
Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet


