WLGA yn lobïo ar ran byd llywodraeth leol ynglŷn ag arian o Undeb Ewrop yn y dyfodol
13 Hydref 2011
Mae cynrychiolwyr WLGA wedi teithio i Frwsel yr wythnos hon i geisio dylanwadu ar benderfyniadau ynglŷn â rhaglenni ariannu Undeb Ewrop i Gymru yn y dyfodol. Ymwelon nhw â Brwsel yn ystod Wythnos Rhanbarthau a Dinasoedd Ewrop 2011, achlysur y bydd Pwyllgor Rhanbarthau Undeb Ewrop yn ei drefnu bob blwyddyn.
Gan siarad yno, meddai’r Cyng. Chris Holley (Abertawe), Llefarydd WLGA dros Faterion Ewrop ac Adfywio:
“Mae’r wythnos yma a’i diwrnodau agored yn adeg bwysig i ymweld â Brwsel a gofalu bod yr hoelion wyth a’r rhai sy’n gyfrifol am ddod i benderfyniadau yn rhoi sylw i farn byd llywodraeth leol Cymru.
Mae’r cyfarfodydd â rhai o swyddogion uchelradd Comisiwn Ewrop a’r pedwar aelod o Senedd Ewrop sy’n cynrychioli Cymru wedi bod yn fuddiol iawn ynglŷn â lobïo dros raglenni cronfeydd strwythurol a datblygu gwledig i Gymru yn y dyfodol. Gan y bydd rhagor o drafodaethau am raglenni arfaethedig Undeb Ewrop dros y misoedd sydd i ddod, byddwn ni’n parhau i lobïo’n ddyfal i ofalu bod cymunedau Cymru yn gallu manteisio i’r eithaf ar arian o Undeb Ewrop ar ôl 2013.”
Yn ystod yr ymweliad, cyhoeddodd Comisiwn Ewrop ei reoliadau am gronfeydd strwythurol a datblygu gwledig. Bydd y rheoliadau hynny’n cyfeirio rhaglenni ariannu Undeb Ewrop i Gymru rhwng 2014 a 2020.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet – 029 2046 8673 neu lucy.sweet@wlga.gov.uk
Nodiadau i olygyddion
• Ymwelodd cynrychiolwyr WLGA â Brwsel rhwng 10fed a 13eg Hydref. Y Cyng. Chris Holley (Llefarydd WLGA dros Faterion Ewrop ac Adfywio) arweiniodd yr ymweliad.
Diwrnodau Agored Pwyllgor Rhanbarthau Undeb Ewrop 2011
• Bu Diwrnodau Agored 2011, rhan o Wythnos Rhanbarthau a Dinasoedd Ewrop, rhwng 10fed a 13eg Hydref 2011. Roedd Pwyllgor Rhanbarthau Undeb Ewrop yn trefnu’r achlysur am y nawfed tro. Bydd yn denu tua 6000 o gynrychiolwyr lleol a rhanbarthol Ewrop bob blwyddyn i gymryd rhan mewn rhyw 100 o weithdai, trafodaethau a chyfarfodydd: http://ec.europa.eu/regional_policy/conferences/od2011/index.cfm?nmenu=1&sub=100
• Ar 6ed Hydref, cyhoeddodd Comisiwn Ewrop ei reoliadau arfaethedig ar gyfer Polisi Cydlyniant Undeb Ewrop rhwng 2014 a 2020: http://ec.europa.eu/regional_policy/what/future/proposals_2014_2020_en.cfm Ar 12fed Hydref, cyhoeddodd y comisiwn ei reoliadau arfaethedig ar gyfer y Polisi Amaethyddol Cyffredin a’r Rhaglenni Datblygu Gwledig http://ec.europa.eu/agriculture/index_en.htm
Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet


