WLGA yn llongyfarch Cynghorydd y Flwyddyn 2011
07 Rhagfyr 2011
Cafodd y Cyng. Ali Thomas, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, ei enwi'n 'Gynghorydd y Flwyddyn' yn ystod noson wobrwyo 'Gwleidydd y Flwyddyn' yng Nghaerdydd neithiwr.
Gan ei longyfarch am ennill y wobr, meddai'r Cyng. John Davies (Sir Benfro), Arweinydd WLGA:
“Llongyfarchiadau mawr i Ali am ennill gwobr mae'n ei haeddu'n llawn. Mae'n llysgennad ardderchog dros fyd llywodraeth leol ac mae'n un uchel ei barch o ran ei gyfraniad yn WLGA a'i waith yn ei gyngor ei hun fel ei gilydd. Tynnodd Castell-nedd Port Talbot sylw cyfryngau'r byd fis Medi o achos trychineb Glofa'r Gleision, yn anffodus. Cynrychiolodd y Cyng. Thomas ei gymuned ar yr adeg hynod anodd honno, gan lywio ymdrechion y cyngor i helpu'r gwasanaethau brys a'r teuluoedd.
Dyma gyfnod anodd iawn i gynghorau Cymru gan fod ein gwasanaethau'n wynebu talcen caled. O ganlyniad, mae rhai penderfyniadau anodd ynglŷn â blaenoriaethu adnoddau. Rydyn ni'n gwybod ei bod yn anodd i bobl ein cymunedau ni gael dau ben llinyn ynghyd bob dydd, hefyd. Mae rôl y cynghorwyr yn bwysicach fyth yn ystod y cyfnod anodd yma, ac mae'r gwobrau yma'n hanfodol i gydnabod eu rôl nhw ynglŷn â chynnig arweiniad a chymorth effeithiol i'r bobl mae eu gwir angen arnyn nhw yn ogystal â chynnal gwasanaethau yn ôl y safonau uchaf er bod yr amgylchiadau'n eithriadol o anodd.”
Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet


